Deurywioldeb
Oddi ar Wicipedia
- Mae "deurywiaeth" yn ail-gyfeirio i'r dudalen hon. Efallai eich bod yn chwilio am rhyngrywioldeb, trawsrywedd neu trawsrywioldeb.
Cyfeiriadedd rhywiol sy'n cyfeirio at atyniad rhamantus ac/neu rywiol unigolion tuag at unigolion o'r un genedl (cymdeithasol) neu ryw (biolegol) yn ogystal ag unigolion o'r genedl a rhyw arall yw deurywioldeb. Nid yw'r mwyafrif o ddeurywiolion yn cael eu hatynnu gan ddynion a menywod yn gydradd a gall ffafriaethau newid gydag amser.[1] Ond mae rhai deurywiolion yn aros yn gyson yn eu lefelau o atyniad trwy gydol eu bywydau fel oedolion.
Yng nghanol y 1950au, dyfeisiodd Alfred Kinsey graddfa Kinsey mewn cais i fesur cyfeiriadedd rhywiol. Mae gan y raddfa 7-pwynt o 0 ("yn hollol heterorywiol") i 6 ("yn hollol gyfunrywiol"). Mae deurywiolion yn cyflenwi mwyafrif o werthau'r raddfa (1–5), sy'n amrywio o "heterorywiol yn bennaf, dim ond yn gyfunrywiol yn achlysurol" (1) i "gyfunrywiol yn bennaf, dim ond yn heterorywiol yn achlysurol" (5). Yng nghanol y raddfa (3) yw "heterorywiol a chyfunrywiol yn gydradd".[1]