Owain Lawgoch
Oddi ar Wicipedia
Roedd Owain Lawgoch (Ffrangeg, Yvain de Galles "Owain Gymro"; Saesneg, Owain of the Red Hand) (c. 1330-1378), yn ŵyr i frawd Llywelyn Ein Llyw Olaf ac felly hawliai ei fod yn etifedd i'w deyrnas ac i fod yn Dywysog Cymru. Ei enw bedydd oedd Owain ap Thomas ap Rhodri.
Roedd wedi ymsefydlu yn Ffrainc ac fe'i adnabyddid ef yno fel Yvain de Galles. Gyda chymordd brenin Ffrainc hwyliodd i ymosod ar Frenin Lloegr yn 1372 ond methiant fu'r ymdrech. Roedd brenhiniaeth Lloegr sut bynnag yn dal i ofni Owain ac fe gynlluniwyd i'w ladd.
[golygu] Llofruddiaeth Owain
Yn 1378 fe lofruddiwyd Owain yn Mortagne-sur-mer (Charente-maritime) gan John Lamb, asiant cudd yn nhâl y Saeson, a oedd trwy frad wedi ennill ymddiriedaeth Owain. Claddwyd Owain yn eglwys Saint-Léger ym Mortagne; yn anffodus cafodd yr eglwys honno ei thynnu i lawr yn 1884 ac nid oes unrhyw olion o'i fedd i'w gweld heddiw.
[golygu] Llyfryddiaeth
Yr astudiaeth safonol o oes a gyrfa Owain Lawgoch yw:
- A.D. Carr, Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991)