Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Brwydr Caer - Wicipedia

Brwydr Caer

Oddi ar Wicipedia

Ymladdwyd Brwydr Caer tua'r flwyddyn 615 neu 616 (mae'r union ddydiad yn amrywio yn ôl y ffynhonnell) ger safle dinas Caer (yng ngogledd-orllewin Lloegr heddiw).

[golygu] Ffynonellau hanesyddol

Cyfeirir at y frwydr yng ngwaith Beda (yr Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum) ac yn Nghronicl yr Eingl-Sacsoniaid. Ceir cyfeiriad moel yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 613: Gueith Cair Legion, et ibi cecidit Selim filii Cinan, "Gwaith (Brwydr) Caer Leon; ac yno syrthiodd Selyf fab Cynan".

Cyfeiria un o Drioedd Ynys Prydain at Waith Perllan Fangor (Brwydr Perllan Bangor) a'r Cymry a Saeson a ymladdodd yno:

Tri Phorthawr Gweith Perllan Fangor:
Gwgon Gleddyfrudd,
A Madawg ap Rhun,
A Gwiawn ap Cyndrwyn.
A thri ereill o bleid Lloegyr:
Hafystyl Drahawg
a Gwaetcym Herwuden
a Gwiner.
(Trioedd Ynys Prydein 60, yr orgraff wedi'i ddiweddaru)

Mae'r ffynhonnell yn bur ddiweddar (15fed ganrif), ond mae'r triawd yn gynharach. Mae Rachel Bromwich yn dalau fod y chwech "porthor" yn cyfeirio at y rhyfelwyr ar y ddwy ochr a ddaliai'r mynedfeydd i'r berllan (dyma'r unig gyfeiriad at y frwydr yn cael ei hymladd mewn perllan). Mae enwau'r Cymry'n ddiddorol. Roedd Gwgon Gleddyfrudd a Madog ap Rhun yn ddeiliaid i frenin Powys a chyfoeswyr i Selyf ap Cynan (gweler isod). Mae'r Saeson a enwir yn anhysbys.

Mae Sieffre o Fynwy yn cyfeirio at y frwydr yn ei Historium Regum Britanniae ac yn honni fod y tywysogion Cymreig wedi ymosod ar y gelyn yn fuan ar ôl y frwydr ac ennill y dydd, ond nid oes tystiolaeth arall am hynny.

[golygu] Y frwydr

Roedd yn frwydr dyngedfennol i'r Brythoniaid. Collwyd y dydd gan y Brythoniaid, a arweinwyd gan y brenin Selyf ap Cynan, mab Cynan Garwyn, o Bowys a Brochwel ap Cyngen yn erbyn byddin gref Aethelfrith (Ethelfrith) o Ddeira (Northumbria heddiw). Lladdwyd 1200 o fynachod Bangor Is-Coed gan y Saeson naill ai cyn y frwydr neu yn ystod yr ymladd (yn ôl un traddodiad roedd y mynachod yno i lafarganu er gofyn buddugoliaeth i'r Brythoniaid); rhoddwyd yr enw "Cyflafan y Saint" ar y drychineb. Syrthiodd Selyf ei hun a nifer o'i ryfelwyr yn y frwydr hefyd ond ymddengys i Frochwel ddianc.

Ymysg canlyniadau'r frwydr oedd i Frythoniaid Cymru a de-ddwyrain Prydain (Cernyw) gael eu gwahanu fwyfwy o'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd.

[golygu] Ffynonellau

  • T.D. Brereton, The Book of Welsh Saints (Glyndŵr Publications, 2000)
  • Rachel Bromwic (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978). Gw. tt. 173-4 a thriawd 60.
  • John Morris (gol.), Nennius (Llundain, 1980)
Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com