See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Yr Ail Ryfel Byd - Wicipedia

Yr Ail Ryfel Byd

Oddi ar Wicipedia

Yr Ail Ryfel Byd
Dyddiad 1 Medi, 19392 Medi, 1945
Lleoliad Ewrop, y Cefnfor Tawel, De Ddwyrain Asia, y Dwyrain Canol, y Môr Canoldir ac Affrica
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Cynghreiriaid. Creu'r Cenhedloedd Unedig. Ymddangosiad yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd fel archbwerau. Creu sfferau dylanwad y Byd Cyntaf a'r Ail Fyd yn Ewrop sy'n arwain at y Rhyfel Oer.
Brwydrwyr
Pwerau Cynghreiriol:

Yr Undeb Sofietaidd Yr Undeb Sofietaidd (1941-45)
Yr Unol Daleithiau Yr Unol Daleithiau (1941-45)
Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gweriniaeth Tsieina Tsieina
Ffrainc Ffrainc
...et al.

Pwerau'r Axis:

Yr Almaen Yr Almaen
Japan Japan (1941-45)
Yr Eidal Yr Eidal
...et al.

Arweinwyr
Yr Undeb Sofietaidd Joseph Stalin (1941-45)

Yr Unol Daleithiau F.D. Roosevelt (1941-45)
Yr Unol Daleithiau Harry S. Truman (1945)
Y Deyrnas Unedig Winston Churchill
Gweriniaeth Tsieina Chiang Kai-shek
...et al.

Yr Almaen Adolf Hitler

Japan Hirohito (1941-45)
Yr Eidal Benito Mussolini (1940-43)
...et al.

Anafedigion a cholledigion
Meirw milwrol:
Dros 14 000 000
Meirw dinesig:
Dros 36 000 000
Cyfanswm y meirw:
Dros 50 000 000
Meirw milwrol:
Dros 8 000 000
Meirw dinesig:
Dros 4 000 000
Cyfanswm y meirw
Dros 12 000 000
Gweler Cymru a'r Ail Ryfel Byd am effaith y rhyfel ar Gymru.

Y rhyfel mwyaf eang a chostus mewn hanes oedd Yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel hwn cafodd tua 50 miliwn o bobl eu lladd. Roedd Prydain a'r Gymanwlad Brydeinig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd a Tsieina ar y naill ochr a'r Almaen, yr Eidal a Siapan ar y llall. Prif ardaloedd y brwydro oedd Ewrop, Dwyrain Asia a'r Cefnfor Tawel.

Dyma'r rhyfel cyntaf lle roedd awyrennau yn bwysig iawn. Yn wir dechreuodd y rhyfel pan ymosododd Adolf Hitler ar Wlad Pŵyl trwy ei bomio. Daeth y rhyfel i ben pan ollyngodd America fom atomig ar Nagasaki.

Yn ystod y rhyfel hon cafodd mwy o bobl nag erioed o'r blaen eu lladd mewn rhyfel. Y prif reswm dros hynny oedd graddfa rhyfel heb ei ail a rhwswm arall roedd bomio trefi yn ystod y rhyfel fel y gwnaeth yr Almaen yn erbyn Gwlad Pŵyl a byddin y Cynghreiriaid yn erbyn yr Almaen. Cafodd llawer o bobl eu lladd mewn gwersylloedd difodi hefyd.

Taflen Cynnwys

[golygu] Achos y Rhyfel

Roedd nifer o resymau am y rhyfel hwn.

[golygu] Cytundeb Versailles

Roedd Cytundeb Versailles, a arwyddwyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi golygu bod yr Almaen wedi colli ei trefedigaethau, ac fe drosglwyddwyd rhan sylweddol o'i thir i Ffrainc a Gwlad Pwyl ac nid oedd yr Almaen i gael ond byddin fach amddiffynol.

[golygu] Dirwasgiad

Bu dirwasgiad difrifol yn yr Almaen rhwng y ddwy ryfel byd. Roedd hyn yn waeth yn y 1920au nac yng ngweddill Ewrop. Erbyn y 1930au fodd bynnag roedd rhan sylweddol o'r byd datblygiedig yn dioddef caledi ac anghydfod gwleidyddol a cymdeithasol y Dirwasgiad Mawr.

[golygu] Twf y Natsïaid

Roedd telerau llym Cytundeb Versailles a'r trafferthion economaidd wedi gwneud i'r Almaenwyr deimlo nad oeddent yn cael chwarae teg gan wledydd eraill. Rhoddodd hyn hwb i dyfiant y Blaid Natsïaidd. Daeth ei harweinydd Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen ar 30 Ionawr 1933 ac mewn effaith yn unben gyda marwolaeth yr arlywydd Paul van Hinderberg.

[golygu] Dechrau'r Rhyfel

Nid oes cytundeb ar union ddyddiad dechrau'r rhyfel. Y dyddiad mwyaf cyffredin a dderbynnir yw 1 Medi 1939, pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Pwyl, gyda Phrydain a Ffrainc yn cyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. Mae eraill yn crybwyll y 7 Gorffennaf 1937 fel dyddiad dechrau'r rhyfel, pan ymosododd Siapan ar Tsieina ac eraill wedyn yn nodi Mawrth 1939 a'r adeg yr aeth byddinoedd Hitler i mewn i Prague, Tsiecoslofacia.

[golygu] Y Rhyfel yn Ewrop

Dechreuodd y rhyfel yn Ewrop ar 1 Medi 1939 wrth i'r Almaen ymosod ar Wlad Pwyl a gwnaeth Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ddatgan rhyfel o fewn dau ddiwrnod ar y 3 Medi 1939. Daeth y rhyfel i ben yn Ewrop ar 18 Mai 1945 pan ildiodd yr Almaen.

[golygu] Y Rhyfel yn y Cefnfor Tawel ac Asia

Yn Asia, dechreuodd y rhyfel gydag ymosodiad Siapan ar Tsieina ym 1937. Parhaodd y rhyfel yn Asia a'r Cefnfor Tawel tan i Siapan ildio ar yr 2 Medi, 1945, yn sgîl y bomio atomig ar Hiroshima a Nagasaki.

[golygu] Y Rhyfel yn y Môr Canoldir a Gogledd Affrica

[golygu] Effeithiau'r Rhyfel

O ganlyniad i'r rhyfel hon daeth ynysiaeth yr Unol Daleithiau i ben, ail-adeiladwyd yr Almaen a Siapan fel gwledydd diwydiannol pwysig iawn, daeth yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ddwy archbŵer, a sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig er mwyn ceisio rhwystro rhyfel byd yn y dyfodol.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -