Llanddyfnan
Oddi ar Wicipedia
Cymuned bychan a phlwyf ym Môn yw Llanddyfnan. Gorwedd yn ne-ddwyrain Ynys Môn ar y ffordd B5109 rhwng Pentraeth i'r dwyrain a Llangefni i'r gorllewin.
Enwir y plwyf ar ôl Sant Dyfnan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ceir maen hir cynhanesyddol ger y ficerdy.
Cysylltir y teulu o gyfreithwyr Cymreig canoloesol a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu' â Llanddyfnan. Roedd y bardd Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn 1283, yn aelod o'r teulu hwnnw.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |