Llanbabo
Oddi ar Wicipedia
Mae Llanbabo yn bentref bychan 4 milltir i'r de o Fae Cemaes ar ymyl Cors y Bol ger Llyn Alaw, yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu'n gryf fod Sefnyn, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif, yn frodor o blwyf Llanbabo.
[golygu] Eglwys Sant Pabo
Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Pabo (5fed ganrif). Eglwys un siambr ydyw, a godwyd yn y 12fed ganrif yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd ond a newidiwyd yn sylweddol yn y 19eg ganrif. Ynddi ceir maen cerfiedig ac arni delwedd bas-relief o'r sant, oedd yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn gwisgo coron ac yn dwyn teyrnwialen. Mae'r maen yn dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif. Tybir i gerflun arall ar yr ynys, yn Eglwys Sant Iestyn, yn Llaniestyn, gael ei gerfio gan yr un crefftwr.
Hefyd o ddiddordeb arbennig yw'r tri phen cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gosod yn y bwa uwchben porth yr eglwys; tybir eu bod yn cynrychioli'r Drindod (ceir pennau cyffelyb ym Mhriordy Penmon ac yn eglwys Llan-faes).
Mae muriau'r llan o gwmpas yr eglwys ar ffurf crwn, arwydd o hynafrwydd y safle.
[golygu] Hynafiaethau eraill
Filltir i'r de o'r pentref ceir maen hir ac yn agos i hwnnw mae safle Bedd Branwen ar lan Afon Alaw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Gweler t. 76 am luniau o bennau'r bwa, a t. 216 a lun o'r maen cerfiedig.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |