Oliver Cromwell
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd a milwr o Sais oedd Oliver Cromwell (25 Ebrill, 1599 - 3 Medi, 1658), 'Arglwydd Amddiffynwr Lloegr' a phennaeth Gwerinlywodraeth Lloegr o 1653 hyd 1658.
Roedd Cromwell o dras Cymreig, yn ddisgynydd i Morgan ap William, mab William ap Yevan. Priododd Morgan a Catherine Cromwell, chwaer y gwleidydd Thomas Cromwell, a newidiodd y teulu ei enw i Cromwell.