Llaneugrad
Oddi ar Wicipedia
Plwyf a chymuned ar yr arfordir yn nwyrain Ynys Môn yw Llaneugrad. Saif rhwng Moelfre a Benllech, ac mae'n cynnwys pentref Marian-glas a bae Traeth Bychan.
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, i Sant Eugrad. Claddwyd nifer o'r rhai a foddodd yn llongddrylliad y Royal Charter yn y fynwent. Bu trychineb forwrol arall ger Traeth Bychan yn 1939, pan fethodd y llong danfor Thetis a dychwelyd i'r wyneb.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 273.