Cylch y Garn
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Cylch y Garn. Caiff ei enw oddi wrth Fynydd y Garn, ac mae'n cynnwys pentrefi Llanfair-yng-Nghornwy, Llanrhuddlad a Rhydwyn. Oddi ar yr arfordir ceir Ynysoedd y Moelrhoniaid.
Eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw llawer o'r arfordir bellach, yn cynnwys gwarchodle adar Cemlyn.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 675.