Dona
Oddi ar Wicipedia
Sant o Gymru oedd Dona (fl. diwedd y 6ed ganrif - dechrau'r 7fed ganrif). Ceir Dwna fel amrywiad ar ei enw.
Roedd Dona yn un o feibion Selyf ap Cynan ('Selyf Sarffgadau'), mab Cynan Garwyn, o deulu brenhinol Powys. Ar ôl cyfnod fel mynach ym Mangor yn Arfon, aeth i fyw fel meudwy yng nghongl de-ddwyreiniol Môn.
Cysegrir Eglwys Llanddona iddo. Dywedir fod yr eglwys wreiddiol yma yn dyddio o tua 610. Ail-adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1873. Yn yr eglwys mae cloch yn dyddio o 1647 a chwpan cymun arian yn dyddio o 1769, ond gyda chaead o 1574.
Hefyd yn ardal Llanddona ceir carreg naturiol yn ardal Mynydd Crafgoed a elwir yn Gadair Dona. Ceir Craig Dona ger Tref-y-clawdd, Maesyfed, a dywedir yr arferai pobl fynd i yfed o'r ffynnon iachusol yno.
[golygu] Cyfeiriadau
T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (2000)