Mechell
Oddi ar Wicipedia
Sant a gysylltir ag Ynys Môn oedd Mechell neu Mechyll (fl. 5ed ganrif neu 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Echwydd ap Gwyn Gohoyw.
Ychydig iawn a wyddys amdano. Dywedir iddo sefydlu eglwys Llanfechell yn y 5ed ganrif. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref hwnnw.
Ceir carreg Gristnogol gynnar ym mynwent eglwys Penrhos Lligwy sy'n dwyn yr arysgrif ganlynol:
- HIC IACIT MACCVQ ECCETI (Yma y gorwedd ?Mechell [fab] ?Echwydd)
Ymddengys i Fechell gael ei gladdu yn y llan honno.
[golygu] Ffynhonnell
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)