Bryn Celli Ddu
Oddi ar Wicipedia
Mae Bryn Celli Ddu yn siambr gladdu yn agos i arfordir deheuol Ynys Môn, rhwng Llanddaniel Fab a Llanedwen a gerllaw Afon Braint. Bu rhywfaint o ysbeilio yno yn 1699 a bu cloddio archaeolegol yn 1928 a 1929.
Ymddengys fod cylch cerrig yma yn cyfnod Neolithig, pan oedd cylch cerrig ar y safle. Roedd olion tân yn un man, a chafwyd hyd i asgwrn bychan o glust ddynol, a charreg wastad drosto.
Tua dechrau Oes yr Efydd, tua 3000 C.C., cafwyd gwared ar y cerrig ac adeiladwyd siambr gladdu. Yr oedd carreg wedi ei cherfio a llinellau yn sefyll yn y siambr ei hun. Symudwyd hon i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'r garreg sy'n sefyll tu allan i'r siambr heddiw yn gopi ohoni. Noder fod y pentwr pridd sy'n gorchuddio'r siambr heddiw wedi ei ail-godi yn yr ugeinfed ganrif; mae'n debyg fod y gwreiddiol yn llawer mwy.
Mae gwaith ymchwil diweddar gan Steve Burrow, curadur archaeoleg Neolithig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn awgrymu fod y siambr wedi ei hadeiladu i gyd-fynd a safle'r haul. Ar y diwrnod hwyaf o'r flwyddyn mae yr haul yn tywynnu yn syth i mewn i'r siambr gladdu ei hun. Mae hyn yn cysylltu Bryn Celli Ddu a rhai siamberi claddu eraill megis Maes Howe a Newgrange, sydd wedi ei hadeiladu i gyd-fynd a safle'r haul ar y dydd byrraf.
Darganfyddiad diweddar arall yw y gall fod pum twll postyn ar y safle fod yn llawer hŷn na'r siambr gladdu a'r cylch cerrig. Dyddiwyd olion o ddau o'r tyllau i'r cyfnod Mesolithig (Pitts, 2006).
Gellir cyrraedd Bryn Celli Ddu trwy droi oddiar ffordd yr A4080 gerllaw Llanedwen i gyfeiriad Llanddaniel Fab. Mae lle parcio ar y chwith, yna gellir croesi'r ffordd a dilyn llwybr o tua hanner milltir i'r siambr gladdu. Mae'r safle yng ngofal Cadw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Pitts, M. 2006. Sensational new discoveries at Bryn Celli Ddu. British Archaeology No. 89 (July/August): 6.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd |
||