Barclodiad y Gawres
Oddi ar Wicipedia
Siambr gladdu Neolithig yw Barclodiad y Gawres. Fe'i lleolir ar benrhyn bychan rhwng Porth Trecastell a Phorth Nobla ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, ychydig i'r de o bentref Rhosneigr. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio iddi.
Barclodiad y Gawres yw'r siambr gladdu fwyaf yng Nghymru. Mae'n esiampl o'r beddau cyntedd ar ffurf croes, ar yr un cynllun a nifer o siamberi claddu yn Iwerddon megis Newgrange. Nodwedd ddiddorol yw fod nifer o'r meini wedi eu haddurno â llinellau igam-ogam.
Bu cloddio archaeolegol yma yn 1952-3. Un darganfyddiad oedd fod olion sy'n dangos i dân gael ei gynnau yn y rhan ganol, a cawl wedi ei wneud o amrywiaeth ryfedd o anifeiliaid a physgod wedi ei dywallt trosto. Ymddengys fod hyn yn rhan o ryw ddefod.
Mae'r siambr wreiddiol wedi ei hamgylchynu gan domen goncrît er mwyn ei gwarchod. Mae dan ofal Cadw ond er mwyn ymweld â thu mewn y domen rhaid cael goriad.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
[golygu] Cysylltiadau Allanol
Siamberi Claddu ar Ynys Môn | ||
---|---|---|
Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd |
||