Llanbadrig
Oddi ar Wicipedia
Plwyf a chymuned ar arfordir gogledd Môn yw Llanbadrig. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion, cantref Cemais.
Mae'r plwyf/gymuned yn cynnwys treflan Clygyrog a phorthladd bychan Cemaes (Porth Wygyr), lleoliad tybiedig maenor cantref Cemais yn yr Oesoedd Canol. Ceir nifer o hen chwareli calchfaen yn yr ardal.
Enwir Llanbadrig ar ôl Sant Padrig, nawddsant Iwerddon, a cheir eglwys o'r enw, prif eglwys y plwyf, ar yr arfordir ger Cemaes. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu yn y flwyddyn 440 gan Sant Padrig ei hun. Yn ôl chwedl leol, cafodd Padrig ei hun mewn llongdrylliad ar Ynys Badrig, sy'n ynys fechan yn agos i arfordir y plwyf, bron gyferbyn â safle'r eglwys bresennol.
Cafodd rhan o'r ffilm Half Light (2006), yn serennu Demi Moore ei ffilmio yn Llanbadrig (ond lleolir y ffilm yn yr Alban).