See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Rhyfel Cartref Sbaen - Wicipedia

Rhyfel Cartref Sbaen

Oddi ar Wicipedia

Ystyrir Rhyfel Cartref Sbaen (17 Gorffennaf 1936 - 1 Ebrill 1939) yn fath o ragarweiniad i'r Ail Ryfel Byd, gan iddo roi cyfle i'r Almaen, Yr Eidal a'r Undeb Sofietaidd brofi eu harfau.

Map o Sbaen yn dangos y sefyllfa yn Awst a Medi 1936. Y rhannau glas yw'r rhan o'r wlad oedd ym meddiant y cenedlaetholwyr ar y dechrau, y rhannau gwyrdd y darnau a enillwyd ganddynt, a'r rhannau coch y rhan o Sbaen oedd ym meddiant y llywodraeth weriniaethol.
Map o Sbaen yn dangos y sefyllfa yn Awst a Medi 1936. Y rhannau glas yw'r rhan o'r wlad oedd ym meddiant y cenedlaetholwyr ar y dechrau, y rhannau gwyrdd y darnau a enillwyd ganddynt, a'r rhannau coch y rhan o Sbaen oedd ym meddiant y llywodraeth weriniaethol.

Ar y 12 Gorffennaf 1936, llofruddiwyd un o wyr y chwith, José Castillo gan y Ffalangiaid. Y diwrnod wedyn dialodd y chwith am hyn trwy ladd José Calvo Sotelo, arweinydd yr wrthblaid. Yn dilyn hyn ceisiodd grwp o swyddogion y fyddin gipio grym.

Y prif arweinwyr ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo, Emilio Mola a Francisco Franco. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Ar yr ochr arall, Arlywydd y Weriniaeth am y rhan fwyaf o'r rhyfel oedd Manuel Azaña, rhyddfrydwr gwrth-glerigol. Yr arweinwyr eraill oedd Francisco Largo Caballero ac yna o fis Mai 1937 ymlaen Juan Negrín, y ddau yn sosialwyr.

Cynlluniwyd ymdrech swyddogion y fyddin ym Morocco. Ar fore'r 17eg o Orffennaf, dechreuasant trwy gipio Melilla. Llwyddasant i gipio rhan o Sbaen yn syth (gweler y map) ond llwyddodd y llywodraeth i ffurfio grwpiau milisia i ymladd trostynt. Yr oedd y grwpiau yma yn cynnwys sosialwyr, comiwnyddion ac anarchwyr ymhlith eraill. Cyfeirir at y grwpau oedd yn ymladd dros y llywodraeth fel y Gweriniaethwyr. Cyfeirir at y grwpiau adain-dde oedd yn cefnogi ymdrech Franco a'i gyd-swyddogion fel y Cenedlaetholwyr, ac roedd y rhain yn cynnwys y Ffalangiaid ac eraill.

Parhaodd yr ymladd am dair blynedd. Cafodd y cenedlaetholwyr gymorth gan yr Almaen a'r Eidal, tra cafodd y gweriniaethwyr gymorth gan yr Undeb Sofietaidd. Arhosodd y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn niwtral, ond ymladdodd cryn nifer o'u dinasyddion dros y weriniaeth fel gwirfoddolwyr yn y Brigadau Rhyngwladol, yn eu plith nifer o Gymry.

Ymhlith erchyllderau y rhyfel, un o'r enwocaf oedd bomio dinas Guernica gan awyrennau yr Almaen, a goffhawyd gan Pablo Picasso yn ei ddarlun o'r un enw. Yn nyddiau cyntaf y rhyfel saethwyd tua 50,000 o bobl oherwydd iddynt gael eu dal yn y rhan o'r wlad oedd ym meddiant eu gwrthwynebwyr gwleidyddol. Yn eu plith yr oedd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca a saethwyd gan y Ffalangwyr yn Granada.

Yn y rhannau oedd yn perthyn i'r weriniaeth, yn enwedig lle'r oedd yn anarchwyr mewn grym, megis Aragón a Catalonia, newidiwyd dull byw merched Sbaen yn sylweddol iawn.]]

Yn y diwedd llwyddodd y cenedlaetholwyr i goncro'r gweddill o Sbaen, er i'r gweriniaethwyr ymladd yn ffyrnig. Credir i tua 500,000 o bobl gael eu lladd yn y rhyfel. Daeth Franco i rym, a rheolodd Sbaen tan ei farwolaeth.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -