Ymerodraeth yr Inca
Oddi ar Wicipedia
Ymerodraeth yr Inca (Quechua: Tawantinsuyu) oedd yr ymerodraeth fwyaf ar gyfandir America. Prifddinad yr ymerodraeth oedd Cusco, a'i chanolbwynt oedd ucheldiroedd yr Andes ym Mheriw. Dechreuodd ddatblygu yn gynnar yn y 13eg ganrif, a chafwyd y tŵf mwyaf rhwng 1438 a 1533, pan ddaeth rhan fawr o orllewin De America dan eu rheolaeth, yn cynnwys y rhan fwyaf o Ecuador, Periw, gorllewin a de Bolifia, gogledd-orllewin yr Ariannin, gogledd a rhan o ganolbarth Chile a de Colombia. Galwai'r Inca eu brenin yn "blentyn yr haul".
Dechreuodd tŵf yr ymerodraeth gyda buddugoliaeth y nawfed inca, Pachacútec, dros gynghrair y gwladwriaethau chanca yn 1438. Dilynwyd y fuddugoliaeth yma gan gipio tiriogaethau newydd dan Pachacútec a'i frawd Cápac Yupanqui, yna dan y degfed inca, Túpac Yupanqui a'i olynydd Huayna Cápac.
Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Francisco Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond llwyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.