Archaeologia Cambrensis
Oddi ar Wicipedia
Cylchgrawn dysgedig blynyddol sy'n ymwneud ag archaeoleg yng Nghymru yw Archaeologia Cambrensis. Fe'i cyhoeddir gan Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (y Cambrian Archaeological Association) er 1846, ond cyhoeddwyd y rhifyn gyntaf ym 1845, flwyddyn cyn sefydlu'r Gymdeithas ei hun yn swyddogol. Y golygydd cyntaf, hyd 1853, oedd John Williams (Ab Ithel).
Cylchgrawn hynafiaethol yn ymwneud â phob agwedd ar hanes, cynhanes, archaeoleg, adeiladau hanesyddol a thraddodiadau Cymru oedd y cylchgrawn ar y ddechrau, ond erbyn heddiw mae'n gyfrwng i gyhoeddi canlyniadau'r gwaith archaeolegol diweddaraf a gwaith ymchwil blaenllaw ar archaeoleg y wlad.