Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Wicipedia:Pigion - Wicipedia

Wicipedia:Pigion

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd: Pigion hŷn

Taflen Cynnwys

[golygu] Hedd Wyn

Hedd Wyn

Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (1887-1917). Roedd yn dod o Drawsfynydd, Sir Feirionnydd yng Ngogledd Cymru. Roedd yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ef a enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Cafodd ei ladd ar faes y gad cyn y cadeirio a dyna pam y gelwir yr Eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu, er nad oedd y gadair yn ddu yn gwirionedd. Galwon nhw'r gadair yr enw yma oherwydd rhoddon nhw luain du arni hi.



[golygu] Petroliwm

Ffynnon olew yng Nghanada
Ffynnon olew yng Nghanada

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y dwyrain canol, yr UDA, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a defnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro i roi amryw o ffracsiynau trwy broses o ddistyllu ffracsiynol]].




[golygu] Gwylan

Gwylan

Mae'r wylan yn bwyta pysgod wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwyta pob math o gig, wyau adar eraill, hadau a llysiau a hefyd anifeiliaid wedi marw a phob math o fudreddi. Mae'n lladd a bwyta crancod trwy hedfan yn uchel a'u gollwng ar y creigiau fel bod y crancod yn torri'n ddarnau. Yng Nghymru yr ydym yn eu gweld yn dilyn aradr, hyd yn oed filltiroedd i mewn i'r tir mawr, yn casglu mwydon a chynrhon wrth iddynt ddod i'r wyneb.



[golygu] Patagonia

Llyn Espejo, Patagonia

Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.



[golygu] Plaid Cymru

Triban Plaid Cymru

Wedi'i sefydlu yn 1925, yn bennaf fel mudiad ieithyddol, yn draddodiadol y mae Plaid Cymru wedi bod yn fwyaf cryf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd.

Am flynyddoedd lawer gwrthododd y Blaid sefyll mewn etholiadau i Senedd Prydain, ond enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad yn sedd Caerfyrddin ar y 14eg o Orffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw'r sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.



[golygu] Renminbi

2 yuan

Uned gwreiddiol y renminbi yw'r yuan. Mae Yuan yn ysgrifenedig fel arfer fel 元, ond i rhwystro ffugio mae'n ysgrifenedig yn ffurfiol fel 圆. Ambell waith mae'r enw'r arian renminbi yn cael eu ddrysu gyda enw'r uned gwreiddiol yuan. Mae un yuan yn cynnwys 10 jiao (角). Mae 1 jiao yn cynnwys 10 fen (分). Y werth mwyaf o renminbi yw 100 yuan. Y lleiaf yw 1 fen.



[golygu] Y Normaniaid

Castell Penfro

Pobl sydd yn dod o Scandinafia (yn bennaf Llychlynwyr yn dod o Ddenmarc) ac yn byw yng ngogledd Ffrainc a Phrydain oedd y Normaniaid. O achos cwymp Gruffudd ap Llywelyn ym 1063 doedd Cymru ddim yn wlad cryf pan cyraeddodd Gwilym, Brenin Normaniaid Lloegr a sefydliodd ef iarllaethau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd.



[golygu] Joseph Haydn

Joseph Haydn

Cyfansoddwr o Awstria oedd Josef Haydn (31 Mawrth, 1732 - 31 Mai, 1809). Roedd yn un o brif gyfansoddwyr y cyfnod clasurol. Treuliodd y rhan helaethaf o'i yrfa fel cerddor llys i'r teulu cyfoethog Eszterhazy. Cafodd ei eni yn Rohrau, yn Awstria ger ffin Hwngari. Roedd yn frawd i Michael Haydn, a oedd hefyd yn gyfansoddwr, ac i Johann Evangelist Haydn, a oedd yn denor.



[golygu] Telyn

Telynores

Offeryn cerdd gyda tannau yw'r Delyn. Mae nifer o'r beirdd yn disgrifio'r delyn yn ei barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.



[golygu] Morfuwch

Morfuwch gyda llo

Un o famaliaid mawr y dŵr yw'r forfuwch (teulu Trichechidae, rhywogaeth Trichechus). Mae'r Trichechidae yn wahanol i'r Dugongidae o ran siâp y penglog a'r gynffon. Mae cynffon y forfuwch ar ffurf rhwyf; cynffon fforchog sydd gan y dwgong. Llysysydd yw'r forfuwch, yn treulio llawer o'i hamser yn pori mewn dyfroedd beision.


[golygu] Afon Tafwys

Afon Tafwys yn Westminster edrych tua'r de

Afon yn ne Lloegr sydd yn llifo trwy Lundain i Fôr y Gogledd yw Afon Tafwys. Tardd yr afon ger pentref Kemble yn ardal y Cotswolds. Yna llifa'r afon am 346km (215 milltir) trwy Rydychen, Reading, Maidenhead, Eton, Windsor a Llundain cyn cyrraedd Môr y Gogledd. Ystyrir bod yr afon yn aberu'n derfynol ger cefnen dywod y Nore.



[golygu] Gŵydd Wyllt

Gŵydd Wyllt

Mae'r Ŵydd wyllt (Anser anser) yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Ceir yr ŵydd yma yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â China. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb megis ar gorsdir, ar rostir neu'n agos at lyn. Mae'n ŵydd fawr, 74-84 cm o hyd a 149-168 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu yn llwyd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill trwy fod ei phig yn binc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau'n binc. Pan mae'n hedfan mae darnau mawr o liw llawer goleuach ar yr adenydd na sydd gan wyddau eraill.


[golygu] Alotrop

Alotrop

Mae gan rai elfennau yn eu ffurf bur fwy nag un ffurf bosibl i'w hadeiledd cemegol. Gelwir y gwahanol ffurfiau hyn yn alotropau. Mae'r term alotrop yn cynnwys moleciwlau o atomau o un elfen yn unig megis nwyon deuatomig. Un ffurf benodol o'r elfen yw'r ffurf sefydlog o dan unrhyw amodau (e.e. gwasgedd a thymheredd) penodol ond, os yw'r trawsnewidiad o un ffurf i'r llall yn digwydd yn araf gan fod egni actifadu uchel i'r broses, gall sawl ffurf o elfen fodoli ar yr un pryd. Mae gan alotropau o'r un elfen briodweddau gwahanol gan fod y bondio cemegol rhwng yr atomau ynddynt wedi eu trefnu'n wahanol.


[golygu] Vespasian

Vespasian
Vespasian

Vespasian (17 Tachwedd 9 - 23 Mehefin 79) oedd y pedwerydd ymerawdwr Rhufeinig i deyrnasu yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, a'r unig un o'r pedwar i fedru cadw ei afael ar yr orsedd. Teyrnasodd hyd 23 Mehefin 79. Ei enw gwreiddiol oedd Titus Flavius Vespasianus ond wedi iddo ddod yn ymerawdwr cymerodd yr enw Caesar Vespasianus Augustus. Ganed Vespasian yn Falacrina, ac ef oedd yr ymerawdwr cyntaf nad oedd yn dod o deulu aristocrataidd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf Titus. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r Colisewm yn Rhufain.


[golygu] Yr Wyddfa

Yr Wyddfa

Mynydd uchaf Cymru, a'r mynydd uchaf ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban, yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd).

Fe'i ceir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd; y copa yw canolbwynt ardal draddodiadol Eryri. Mae trên bach Rheilffordd Eryri yn dringo i gopa'r Wyddfa o Lanberis i'r rhai nad ydynt am gerdded i fyny. Adeiladwyd y lein yn 1896. Ar y copa ceir bwyty a siop sydd wrthi'n cael eu hadnewyddu.

Mae tua 350,000 o bobl yn cerdded i gopa'r Wyddfa bob blwyddyn, a thua 60,000 arall yn cyrraedd y copa ar y trên bach. Ceir golygfeydd o ardal eang o'r copa; nid yn unig ran helaeth o ogledd a chanolbarth Cymru ond ar ddiwrnod clir Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Yr olyfga bellaf rhwng dau bwynt ar ynys Prydain, mewn theori, yw'r olygfa rhwng copa'r Wyddfa a chopa Merrick yn ne yr Alban, pellter o 144 milltir (232 km). mwy...


[golygu] Ensym

"Diagram rhuban" ar gyfer yr ensym Triosffosffadisomeras (TIM).

Sylweddau sy'n cataleiddio (h.y. cyflymu) adweithiau cemegol mewn organebau byw yw ensymau. Yn yr adweithiau hyn, gelwir y moleciwlau ar ddechrau yr adwaith yn swbstrad, ac mae'r ensym yn eu trawsnewid yn foleciwlau gwahanol, sef y cynnyrch, heb newid y strwythur ei hun yn ystod y broses. Mae angen ensymau ar gyfer bron pob proses mewn cell er mwyn iddynt weithio ar raddfa sylweddol. Gan fod ensymau'n hynod o ddetholiadol ac yn cyflymu ond ychydig o adweithiau ymysg nifer o bosibiliadau, mae'r set o ensymau mewn cell yn penderfynu llwybr metabolaidd cynnwys y gell. mwy...


[golygu] Penmaenmawr

Golygfa ar orllewin Penmaenmawr o'r Gwddw Glas

Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy (hen Sir Gaernarfon), gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.

Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae Bwlch Sychnant yn denu ymwelwyr, ac mae rhan o'r dref yn gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. mwy...


[golygu] William Shakespeare

William Shakespeare

Bardd a dramodydd Saesneg oedd William Shakespeare (c. 23 Ebrill 1564 - 23 Ebrill 1616), a anwyd yn Stratford-upon-Avon.

Nid oes tystiolaeth i brofi pa ysgol fynychodd Shakespeare, ond gwyddys ei fod wedi mynd i King Edward VI Grammar School lle byddai wedi dysgu'r rhan fwyaf o'r technegau sydd eu hangen i ysgrifennu.

Fe briododd Shakespeare Anne Hathway, o Stratford, pan nad oedd ef ond yn 18 mlwydd oed. Does dim llawer o hanes i gael am William Shakespeare yn ystod y 1580au, felly cyfeirir at y cyfnod hwnnw fel "y blynyddoedd coll".

Erbyn 1592 roedd Shakespeare yn wyneb cyfarwydd mewn cylchoedd llenyddol. Roedd yn un o berchenogion cwmni drama'r Lord Chamberlain's Men yn 1594 (newidiwyd yr enw i The King's Men ar ôl coroni Iago I). Cyfansoddodd 38 drama. Bu farw Shakespeare yn 52 oed. Cafodd dri o blant, Hamnet, Judith a Susannah. mwy...


[golygu] Nicole Cooke

Nicole Cooke yn ennill 19fed Ras

Seiclwraig rasio proffesiynol yw Nicole Cooke (ganwyd 13 Ebrill 1983, Abertawe), mae hi'n byw yn Lugano, y Swistir.

Magwyd Cooke yn Y Wig, Bro Morgannwg, dechreuodd seiclo yn ifanc. Yn unarbymtheg oed, enillodd ei theitl cenedlaethol hyn cyntaf. Yn 2001 cafodd ei gwobrwyo gyda'r Bidlake Memorial Prize, a roddwyd ar gyfer perfformiadau diarhebol neu gyfraniad i welliant seiclo. Enillodd bedair teitl y byd iau, yn cynnwys un ym Mhortiwgal yn 2001.

Cystadleuodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2002, ac enillodd y ras ffordd merched mewn diwedd sbrint syfrdanol. Cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru. mwy...


[golygu] Nadolig

Golygfa o enedigaeth Crist

Gŵyl Gristnogol flynyddol yw'r Nadolig, sy'n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Mae nifer o arferion yn gysylltiedig gyda'r Nadolig, sydd wedi cael eu dylanwadu gan wyliau cynharach y gaeaf. Mae'r dyddiad yn ben-blwydd traddodiadol Crist, er nad yw'n cael ei ystyried i fod yn wir ddyddiad ei ben-blwydd.

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd, dethlir y Nadolig ar y 25 Rhagfyr. Yr enw a roddir i'r diwrnod o'r flaen yw Noswyl y Nadolig (24 Rhagfyr). Ym Mhrydain a nifer o wledydd y Gymanwlad dethlir Gŵyl San Steffan ar y diwrnod canlynol, 26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan yw'r enw ar y diwrnod yn Nghymru ac mewn nifer o wledydd Catholig, a Boxing Day yw'r enw yn Saesneg. Mae hon yn ŵyl banc yn y Deyrnas Unedig (yn cynnwys Gogledd Iwerddon). Mae Eglwys Apolistaidd Armenia yn dathlu'r Nadolig ar 6 Ionawr tra bod rhai Eglwysi Uniongred Dwyreiniol hynafol yn ei ddathlu ar 7 Ionawr, y dyddiad yn ôl Calendr Gregori sy'n cyfateb i'r 25 Rhagfyr yng Nghalendr Julian. mwy...


[golygu] Diwydiant llechi Cymru

Hollti blociau llechfaen â chyn a morthwyl yn Chwarel Dinorwig tua 1910. Mae angen medrusrwydd mawr i wneud y gwaith yma, ac ni lwyddwyd i’w fecaneiddio hyd ail hanner yr 20fed ganrif.

Dechreuodd diwydiant llechi Cymru yn y cyfnod Rhufeinig, pan ddefnyddiwyd llechi ar do caer Segontium, Caernarfon. Tyfodd y diwydiant yn araf hyd ddechrau’r 18fed ganrif, yna bu tŵf cyflym hyd ddiwedd y 19eg ganrif. Roedd yr ardaloedd cynhyrchu llechi pwysicaf yng ngogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, Chwarel Dinorwig ger Llanberis, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog, lle roedd y llechi yn dod o gloddfeydd tanddaearol yn hytrach na chwareli agored. Penrhyn a Dinorwig oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, a Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd y gloddfa lechi fwyaf yn y byd. Defnyddir llechi yn bennaf ar doeau, ond mae darnau mwy trwchus o lechfaen yn cael eu defnyddio ar gyfer lloriau, byrddau gwaith a beddfeini ymhlith pethau eraill.

Hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cynhyrchid y llechi gan griwiau bach o chwarelwyr oedd yn talu i’r tirfeddiannwr am gael defnyddio’r chwareli. Byddent yn cario’r llechi i’r porthladdoedd ar gefnau ceffylau neu mewn certi, ac yna yn eu hallforio i Loegr, Iwerddon ac weithiau Ffrainc. Tua diwedd y ganrif, dechreuodd y tirfeddianwyr mawr weithio’r chwareli eu hunain, ar raddfa fwy. Wedi i’r llywodraeth wneud i ffwrdd â'r dreth ar lechi yn 1831, tyfodd y diwydiant yn gyflym a datblygwyd rheilffyrdd cul i gario’r llechi i’r porthladdoedd. mwy...


[golygu] Sahara

Anialwch y Sahara

Y Sahara yw'r anialwch neu ddiffeithiwch mwyaf yn y byd. Mae'n cyfateb i faint yr Unol Daleithiau, yn ymestyn rhyw 5000 km ar draws gogledd Affrica o'r Môr Iwerydd yn y gorllewin i'r Môr Coch yn y dwyrain. Does ond ychydig o fywyd yn y diffeithiwch ei hunan a cheir y rhan fwyaf o'r bywyd sydd ynddo yn yr ardal a elwir Sahel sef yr ardal sydd yn ymestyn ar draws y cyfandir ar ochr ddeheuol y Sahara ac hefyd ar y rhimyn gogleddol. Fel y teithir fwy fwy i'r de fe wna'r coed, y llwyni a bywyd yn gyffredinol amlhau.

Nid tywod yn unig yw'r Sahara. Mae rhannau enfawr yn cael ei orchuddio gan raean garw, gyda llawer o'r graig a'r cerrig yn dod o'r lafa a ddaeth unwaith o'r mynyddoedd tân. mwy...


[golygu] Caerdydd

Castell Caerdydd

Caerdydd yw dinas fwyaf a phrifddinas Cymru. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 'roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr.Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm. mwy...


[golygu] Ukiyo-e

Golygfa o Fynydd Fuji o Numazu (rhan o'r gyfres Pumdeg tri gwersyll y Tokaido gan Hiroshige, gyhoeddwyd 1850)

Mae Ukiyo-e (Siapaneg 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn genre o brintiau bloc pren a lluniau Nikuhitsuga a gynhyrchid yn Siapan o'r 17fed ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif, sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y thêatr a'r ardaloedd adloniant poblogaidd yn nhrefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniau rhamantaidd.

Cyfeiria'r enw Ukiyo, sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, neu "y pasiant sy'n mynd heibio", at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn y trefi mawr fel Edo (Tokyo heddiw), Osaka, a Kyoto, a oedd yn fyd ar wahân yng nghymdeithas Siapan. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ukio "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan Fwdhiaid Siapan i ddynodi'r byd daearol sy'n ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i Oleuedigaeth. mwy...


[golygu] Morgan Llwyd

Llyfr y Tri Aderyn yw gwaith enwocaf Morgan Llwyd

Bardd, llenor rhyddiaith a chyfrinydd oedd Morgan Llwyd (16193 Mehefin 1659), a gafodd ei eni yng Nghynfal-fawr (hen blasdy gwledig, filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), i'r un teulu â'r bardd Huw Llwyd. Fe'i gelwir weithiau Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg ac ysgrifenodd ambell destun Saesneg yn ogystal. Roedd yn Biwritan argyhoeddedig a digyfaddawd ond ni pherthyn iddo'r culni meddwl a gysylltir â'r mudiad crefyddol hwnnw. Enwir Ysgol Morgan Llwyd, ysgol gyfrwng Gymraeg Wrecsam a'r cylch, ar ei ôl. Enillodd Crwys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1919 am ei awdl 'Morgan Llwyd o Wynedd'. mwy...


[golygu] Cromlech

Cromlech Maen y Bardd, ger Bwlch-y-Ddeufaen, Conwy

Cofadail cynhanesyddol o feini mawr yw cromlech (gair Cymraeg sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg; defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno a rhai ieithoedd eraill lle mae'n gallu golygu unrhyw gofadail megalithig a siambrau claddu yn gyffredinol). Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig).

Yn wreiddiol roedd meini'r gromlech yn ffurfio siambr yng nghanol siambr gladdu neolithig ond ar ôl i'r cerrig a phridd a godwyd drostynt gael eu herydu neu eu dwyn i ffwrdd dim ond y meini mawr sy'n aros. mwy...


[golygu] Abaty Tyndyrn

Abaty Tyndyrn, 1993

Sefydlwyd Abaty Tyndyrn (Saesneg: Tintern Abbey) gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai, 1131. Lleolir hi ar lan yr Afon Gwy yn Sir Fynwy, hon oedd ond yr ail sefydliad Sistersaidd ym Mhrydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'n un o'r adfeilion mwyaf ysblennydd yn y wlad, a ysbrydolodd nifer o gampweithiau; cerdd Tintern Abbey gan William Wordsworth; cerdd Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun); nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner; ceir yn ogystal band o'r enw "Tintern Abbey".

Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn drwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a gyflwynodd y drefedigaeth gyntaf o Sistersiaid i Waverley yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc. mwy...


[golygu] Y Môr Du

Llun lloeren o'r Môr Du (NASA MODIS)

Môr sy'n gorwedd rhwng de-ddwyrain Ewrop ac Asia Leiaf ydy'r Môr Du (Pontus Euxinus y Groegiaid). Mae'n cysylltu â'r Môr Canoldir trwy gulfor Bosporus a Môr Marmara, ac â Môr Azov trwy Gulfor Kerch.

Trwy'r Bosporus mae 200 km² o ddŵr hallt yn llifo i mewn i'r Môr Du bob blwyddyn, ac mae tua 320 km² o ddŵr ffres y flwyddyn yn dod o'r ardaloedd o gwmpas y Môr Du, yn bennaf o ddwyrain a chanolbarth Ewrop. Yr afon fwyaf sydd yn llifo i'r Môr Du yw Afon Donaw. Maint arwynebedd y Môr Du yw 422,000 km², a'i ddyfnder mwyaf yw 2210m.

Y gwledydd o gwmpas y Môr Du yw Twrci, Bwlgaria, Romania, Wcráin, Rwsia a Georgia. Gweriniaeth hunanlywodraethol sydd yn perthyn i'r Wcráin yw'r Crimea. mwy...


[golygu] Dewi Sant

Dewi Sant (yng nghapel Coleg yr Iesu yn Rhydychen)

Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf.

Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non a'i dad oedd Sandde brenin Ceredigion.

Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog. mwy...


[golygu] Hanes Ynys Manaw

Castell Rushen yn Castletown. Adeiladwyd y castell gan Magnus III, brenin Norwy.

Mae hanes Ynys Manaw yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig yr Alban a Lloegr, ac hefyd ddylanwadau Llychlynnaidd cryf. Daeth Ynys Manaw yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal Cumbria. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i Edwin, brenin Northumbria ymosod ar yr ynys yn 616. O gwmpas y 10fed ganrif ymsefydlodd gwladychwyr o Iwerddon a datblygodd Manaweg, sy'n iaith Oidelig tebyg i Wyddeleg. Yn ôl traddodiad, daeth Sant Maughold (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr y Celtiaid, Manannán mac Lir. mwy...


[golygu] Owain Glyndŵr

Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad.

Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyndŵr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru.

Sycharth, ger Llansilin, Powys oedd ei etifeddiaeth; trwy ei fam roedd yn hawlio tiroedd Rhys ap Gruffydd, (yr Arglwydd Rhys). Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.

Fe sylweddolodd fod gormes Lloegr yn difa'r economi Gymreig ac yn sbarduno atgasedd at y Saeson. mwy...


[golygu] Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru

Cymru yn erbyn yr Eidel, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2008. Cymru 47, Yr Eidel 8.

Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad ac hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Enillodd Cymru y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd blynyddoedd llwyddiannus eto yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. Ystyria llawer mai tîm 1971, oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J.P.R. Williams, oedd y gorau i gynrychioli Cymru erioed. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto yn 1976 a 1978. mwy...


[golygu] Syr Robert Peel

Robert Peel

Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 17882 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846. Diwydiannwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Ddug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."

Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Roedd Robert Peel yn un o'r Torïaid cyntaf i sylweddoli bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi. mwy...


[golygu] Diwydiant copr Cymru

Mynydd Parys

Mae hanes diwydiant copr Cymru yn mynd yn ôl i Oes yr Efydd. Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gyda ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.

Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn 1768, gan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yma. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod. mwy...


[golygu] Pla Du

Llun o'r Pla Du o Feibl Toggenburg (1411).

Y Pla Du yw'r enw a defynyddir am y pandemig gwaethaf a gofnodwyd yn hanes y ddynoliaeth. Dechreuodd yn ne-orllewin Asia ac ymledodd i Ewrop erbyn diwedd y 1340au. Credir i o leiaf 75 miliwn o bobl farw o'r pla, gan gynnwys o leiaf draean o boblogaeth Ewrop. Cafodd y pla effaith fawr ar Ewrop, gan achosi nifer o newidiadau cymdeithasol. Lleihaodd awdurdod yr Eglwys Gatholig, ac arweiniodd at erlid Iddewon.

Credir fod y pla wedi ei achosi gan Yersinia pestis, sy'n endemig yng nghanlbarth Asia. Mae'r bacillus yn cael ei gario mewn chwain sy'n byw ar lygod mawr, ond yn medru brathu bodau dynol hefyd. Efallai fod y pla wedi ei gario tua'r dwyrain a'r gorllewin gan fyddinoedd y Mongoliaid. Yr oedd dau fersiwn o'r pla, y math biwbonig, a geid o frathiadau chwain oedd yn cario'r haint, a'r math niwmonig, y gellid ei ddal trwy anadlu. mwy...


[golygu] Glyn Ceiriog

Glyn Ceiriog

Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansantffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, bum milltir (8km) i'r gorllewin o'r Waun a chwe milltir (6km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda rheilffordd y Great Western Railway o Gaer i Amwythig. mwy...


[golygu] Y Celtiaid

Cerflun o arweinydd Celtaidd yn Glauberg yn Yr Almaen

Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archaeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg). mwy...


[golygu] Paris

Paris a'r afon Seine

Prifddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar un o ddolenni Afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y lan dde i'r gogledd a'r lan chwith i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau), bythod llyfrau awyr agored a hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill.

Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (1999: 2,147,857 o drigolion), ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brifddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 1999: 11,174,743 o drigolion), sy'n llenwi tua 90% o arwynebedd rhanbarth Île-de-France. Yn ogystal mae Paris yn un o départements Ffrainc. mwy...


[golygu] Tom Pryce

Pryce yn Brands Hatch yn 1974

Gyrrwr Fformiwla Un o Gymru oedd Thomas Maldwyn Pryce (11 Mehefin, 19495 Mawrth, 1977). Enillodd Pryce y "Brands Hatch Race of Champions" yn 1975 ac ef yw'r unig Gymro i arwain mewn Grand Prix Fformiwla Un: dwy lap o Grand Prix Prydain 1975.

Dechreuodd Pryce ei yrfa Fformiwla 1 gyda'r tîm bychan Token, gan ddechrau un ras gyda nhw yn Grand Prix Gwlad Belg 1974. Ar ôl perfformiad da mewn ras Fformiwla Tri yn Monaco yn yr un flwyddyn, ymunodd Pryce â thîm Shadow ac enillodd ei bwyntiau cyntaf ar ôl pedair ras. Ei ganlyniadau gorau oedd trydydd safle mewn dwy ras. Ystyrid Pryce yn yrrwr talentog iawn ar drac gwlyb gan ei dîm. Yn ystod sesiwn ymarfer ar gyfer Grand Prix De Affrica 1977, a hi'n bwrw glaw yn drwm, Pryce oedd y cyflymaf o bawb, gan gynnwys dau bencampwr byd, sef Niki Lauda a James Hunt. Yn ystod ei drydydd tymor llawn gyda'r tîm Shadow, lladdwyd Pryce yn ystod Grand Prix De Affrica 1977, wrth iddo daro swyddog a oedd yn croesi'r trac i ddelio gyda phroblem car arall. mwy...


[golygu] Sadwrn

Sadwrn

Sadwrn yw planed ail fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. Sadwrn yw'r chweched blaned oddi wrth yr Haul.

Enwyd y blaned ar ôl Sadwrn, duw amaeth ym mytholeg Rhufeinig. Roedd y duw groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (Neifion). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint. Gwybyddir am Sadwrn ers amserau cynhanesyddol. Galileo oedd y cyntaf i edrych arni gyda thelesgop ym 1610. Cafodd arsylwadau cynnar eu cymhlethu gan y ffaith bod y Ddaear weithiau yn pasio trwy blaenau modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi yn ei chylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn ei hegluro gan Christian Huygens ym 1659. mwy...

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com