Île-de-France
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y rhanbarth cyfoes yw hon. Am y dalaith hanesyddol gweler Île de France.
Un o 26 rhanbarth Ffrainc yw Île-de-France. Cynhwysir tua 90% o'i diriogaeth yn aire urbaine ("ardal fetropolaidd") Paris, prifddinas Ffrainc, sy'n ymestyn tu hwnt i'w ffiniau mewn mannau. Creuwyd y rhanbarth fel y "Région Parisienne" (Rhanbarth Paris) ond yn 1961 cafodd ei ail-enwi yn "Île-de-France" yn 1976 i gydymffurfio â gweddill y rhanbarthau gweinyddol Ffrengig a sefydlwyd yn 1972. Er gwaethaf y newid enw, cyfeirir at yr Île-de-France ar lafar o hyd fel y Région Parisienne neu RP a gwelir yr hen enw mewn print weithiau hefyd. Gyda 11.6 miliwn o bobl, Île-de-France yw'r rhanbarth mwyaf poblog yn Ffrainc ac Ewrop gyfan hefyd.
Rhennir y rhanbarth yn wyth département: