Val-d'Oise
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Île-de-France yng ngogledd y wlad, yw Val-d'Oise. Prifddinas weinyddol y département yw Pontoise. Llifa Afon Oise, un o ledneintiau Afon Seine, trwy'r département gan roi iddo ei enw ("Dyffryn Oise"). Mae'n gorwedd i'r gogledd-orllewin o ganol dinas Paris ar lan ogleddol Afon Seine, gan ffinio â départements Yvelines, Eure, Oise, Seine-et-Marne, Seine-et-Denis a Hauts-de-Seine.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Montmorency
- Pontoise