Seine-et-Marne
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Île-de-France yng nghanolbarth y wlad, yw Seine-et-Marne. Prifddinas y département yw Melun. Mae'n gorwedd i'r dwyrain o ddinas Paris gan ffinio â départements Yonne, Loiret, Paris, Oise, Aisne, Marne, ac Aube. Llifa afonydd Seine a Marne trwy'r département gan roi iddo ei enw.
Mae'r prif drefi yn cynnwys:
- Meaux
- Melun
- Provins