See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Ukiyo-e - Wicipedia

Ukiyo-e

Oddi ar Wicipedia

Golygfa o Fynydd Fuji o Numazu (rhan o'r gyfres Pumdeg tri gwersyll y Tokaido gan Hiroshige, gyhoeddwyd 1850)
Golygfa o Fynydd Fuji o Numazu (rhan o'r gyfres Pumdeg tri gwersyll y Tokaido gan Hiroshige, gyhoeddwyd 1850)

Mae Ukiyo-e (Siapaneg 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn genre o brintiau bloc pren a lluniau Nikuhitsuga a gynhyrchid yn Siapan o'r 17fed ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif, sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y thêatr a'r ardaloedd adloniant poblogaidd yn nhrefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniau rhamantaidd.

Cyfeiria'r enw Ukiyo, sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, neu "y pasiant sy'n mynd heibio", at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn y trefi mawr fel Edo (Tokyo heddiw), Osaka, a Kyoto, a oedd yn fyd ar wahân yng nghymdeithas Siapan. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ukio "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan Fwdhiaid Siapan i ddynodi'r byd daearol sy'n ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i Oleuedigaeth.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Mae'r rhan fwyaf o gelfyddydau Japan wedi bodoli ers canrifoedd lawer. Mewn cymhariaeth mae ukiyo-e yn newydd-ddyfodiad diweddar iawn, er ei fod erbyn hyn yn fwy cyfarwydd yn y gorllewin nag unrhyw arddull celf arall o Japan. Dechreuodd yn y 18fed ganrif. Ar y pryd roedd yn arddull hynod o fodern a beiddgar ac roedd ei hartistiaid yn ymwybodol iawn o hynny. Yn ogystal mae ukiyo-e yn gelfyddyd boblogaidd sy'n portreadu byd natur a bywyd beunyddiol ac a werthid i'r cyhoedd fel printiau rhad; roedd hyn yn doriad llwyr â'r traddodiad aristocrataidd.

[golygu] Techneg

Gweithdy printiau ukiyo-e yn Siapan heddiw
Gweithdy printiau ukiyo-e yn Siapan heddiw

Gwneir y print drwy roi cynllun gwreiddiol yr arlunwr ar floc pren er mwyn argraffu nifer o gopïau ohono. Rhoddir inc ar wyneb y pren ac wedyn gwneir print trwy bwyso darn o bapur arno. Yn ystod yr Oesoedd Canol yn Siapan cynhyrchid printiau unlliw o bryd i'w gilydd ond roedd y dechneg o brintio â mwy nag un lliw yn waith rhy gymhleth a llafurus am fod rhaid defnyddio bloc gwahanol ar gyfer pob lliw. Ond yn 1765 llwyddodd argraffwyr bloc pren i greu printiau aml-liw a ganwyd lluniau ukiyo-e.

[golygu] Byd ukiyo-e

Bu newid mawr yng nghymdeithas Siapan yn ystod y ddeunawfed ganrif. Roedd y trefi mawr fel Kyoto a Tokyo yn tyfu'n gyflym. Ynddynt roedd dosbarth canol newydd yn mynychu gerddi te, sioeau o bob math, ac ardaloedd adloniant pobogaidd. Roedd ganddynt arian ond dim rôl gwleidyddol. Tokyo yn anad unlle oedd canolfan y bywyd newydd hwn, ac yn neilltuol ardal enwog y Yoshiwara, oedd yn cyfuno ardal golau coch â thêatrau mawr, sioeau yn y stryd, siopau llyfrau a lluniau, ac ati. Dyma'r byd a anfarwolir yn lluniau arlunwyr ukiyo-e. Y pwnc mwyaf poblogaidd oedd merched hardd, courtesans, actorion Kabuki a golygfeydd lliwgar dramatig o'r llwyfan (mewn cyferbyniaeth lwyr eto â'r thêatr Noh aristocrataidd, soffistigedig). Roedd rhai o'r lluniau'n erotig iawn ac yn perthyn i'r ysgol Shunga; ynhlith yr arlunwyr sy'n enwog am y printiau hyn mae Utamaro, Moronobu a Hokusai.

[golygu] Ehangu gorwelion

Yn y 19eg ganrif ehangwyd gorwelion artistaidd ukiyo-e gan arlunwyr mawr fel Hokusai a Hiroshige, cymaint felly fel nad yw pawb yn derbyn y cynnyrch diweddarach fel ukiyo-e go iawn. Cymwynas fawr Hokusai ac eraill oedd poblogeiddio tirluniau fel genre a gynhwysai nid yn unig golygfeydd o fynyddoedd a blodau ond hefyd golygfeydd o fywyd bob dydd y trefi llai a chefn gwlad mewn sawl rhan o Siapan.

[golygu] Dylanwad y Gorllewin

Bu Siapan yn gymdeithas ynysig tan y 1850au pan ildiodd i bwysau economaidd a milwrol yr Americanwyr i agor ei marchnad i'r Gorllewin am y tro cyntaf ers dros ddau gan mlynedd. Erbyn dechrau cyfnod y Meiji (1868-1912) roedd y wlad yn ceisio dal i fyny â'r Gorllewin yn economaidd a daeth newidiadau mawr yng nghymdeithas Siapan yn ei sgîl. Un o'r pethau i ddioddef oedd ukiyo-e a oedd wedi marw allan, i bob pwrpas, erbyn dechrau'r 20fed ganrif (byddai'n gweld adnewyddiad yn hwyrach yn y ganrif, ond rhan o hanes Manga yw hynny).

Roedd y ffaith fod printiau ukiyo-e mor rad wedi arwain y mwyafrif o'r Siapanwyr i'w dibrisio a'u hesgeuluso, ond pan gyrhaeddodd printiau ukiyo-e y Gorllewin am y tro cyntaf cawsant ddylanwad mawr ar fywyd artistig Ewrop, ac yn neilltuol yn Ffrainc, a gellir gweld eu hôl yn ngwaith artistiaid fel Degas a Van Gogh, er enghraifft. Erbyn heddiw gwethfawrogir ukiyo-e fel un o brif arddulliau celfyddol y byd. Mae print rhad a fuasai'n costio dwy geiniog yn amser Hokusai yn werth miloedd heddiw!

[golygu] Rhestr o'r arlunwyr ukiyo-e pwysicaf

    • Moronubu (m.1694)
    • Anchi (fl. c.1700-1720?)
    • Masonobu (c.1686-1764)
    • Haronobu (c.1725-1770)
    • Koryusai (fl. c.1765-c.1784)
    • Shunsho (1726-1792)
    • Kiyonaga (1752-1815)
    • Utamaro (1753-1806)
    • Eishi (1756-1829)
    • Sharaku (fl. 1794-95)
    • Eisho (fl. 1790au)
    • Kikumaro (fl. 1800au)
    • Hokusai (1760-1849)
    • Toyokuni (1769-1825)
    • Toyokuni II (1802-c.1835)
    • Hokuei (fl. 1830au)
    • Kunisada (1786-1864)
    • Eisen (1790-1848)
    • Hiroshige (1797-1858)
    • Kuniyoshi (1798-1861)
    • Hiroshige III (1841-1894)
    • Yoshimitsu (fl. 1870au)
    • Yoshitoshi (1839-1892)

[golygu] Llyfryddiaeth ddethol

  • Douglas Mannering, Great Works of Japanese Graphic Art (Llundain, 1995). ISBN 0752507230
  • Lionel Lambourne, Japonisme: Cultural Crossings Between Japan and the West (Llundain, 2005). ISBN 0714841056
  • Amy Reigle Newland, The Hotei Encyclopedia of Japanese Woodblock Prints (Amsterdam, 2005). ISBN 9074822657
  • Susugu Yoshida a Roni Uever, Ukiyo-E: 250 Years of Japanese Art, (Gallery Books, 1991). ISBN 0831790415
  • Chisaburah F. Yamada, Dialogue in Art: Japan and the West (Tokyo, New York, 1976). ISBN 0870112147

[golygu] Cysylltiadau allanol


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -