Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Manga - Wicipedia

Manga

Oddi ar Wicipedia

Ail argraffiad Saesneg o'r llyfr Manga InuYasha (Cyf. 1)
Ail argraffiad Saesneg o'r llyfr Manga InuYasha (Cyf. 1)

Manga (Siapaneg 漫画) yw'r gair Siapaneg am gomics a digrifluniau. Y tu allan i Siapan mae'n golygu comics Siapaneaidd yn neilltuol (yn Siapan mae digrifluniau gorllewinol yn "manga" hefyd). Mae'r farchnad manga wedi datblygu'n ddiwydiant anferth, sy'n werth tua $5 biliwn heddiw (2006) ar farchnad y byd.

Datblygodd Manga o gyfuniad o arddulliau ukiyo-e ac arddulliau darlunio tramor, a chymerodd ei ffurf bresennol yn fuan wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Fel rheol mae'r lluniau i gyd mewn du a gwyn, ac eithrio'r clawr a'r tudalennau cyntaf; yr unig eithriad yw'r ffurf hybrid Animanga, sy'n cyfuno elfennau o Fanga ac Anime ac yn lliwgar iawn.

[golygu] Gwreiddiau Manga

Ystyr y gair manga yn llythrenol yw "lluniau ar hap", neu "lluniau ffwrdd-â-hi". Daeth y gair i mewn i'r iaith lafar yn ystod y 18fed ganrif pan gyhoeddwyd gweithiau fel Mankaku zuihitsu (1771) gan Suzuki Kankei a'r llyfr darluniau Shiji no yukikai (1798) gan Santo Kyoden. Ar ddechrau'r 19eg ganrif ymddangosodd weithiau fel Manga hyakujo (1814) gan Aikawa Minwa a'r llyfr Hokusai manga sy'n cynnwys brasluniau amrywiol gan yr arlunydd ukiyo-e enwog Hokusai.

Fodd bynnag, mae'r traddodiad i'w olrhain ymhellach yn ôl i'r 12fed ganrif pan dynnai sawl artist luniau giga (yn llythrennol "lluniau digrif"), ac yn neilltuol chōjū jinbutsu giga (鳥獣人物戯画, sef "lluniau digrif o bobl ac anifeiliaid"); lluniau sy'n cynnwys sawl nodwedd o'r manga gan bwysleisio'r elfennau storïol uniongyrchol a llinellau artistaidd syml ond cryf.

Yn y 19eg ganrif, pan ddechreuodd yr Americanwyr fasnachu â Siapan, daeth artistiaid tramor i weithio yn y wlad a dysgu elfennau fel llinell, ffurf a lliw yn y traddodiad Gorllewinol; roedd hyn yn ddatblygiad newydd am fod ukiyo-e yn rhoi mwy o bwyslais ar y syniad tu ôl i'r llun mewn arddull llawer mwy rhydd. Gelwid Manga hybrid y cyfnod hwnnw yn Ponchi-e ("lluniau Punch") a, fel y cylchgrawn Seisnig o'r un enw, Punch, roedd yn canolbwyntio ar ddarlunio hiwmor a dychan gwleidyddol mewn cyfresi byrion o rwng 1-4 o luniau.

[golygu] Manga heddiw

Siop Manga yn Siapan
Siop Manga yn Siapan

Yn aml mae comics Manga poblogaidd yn cael eu haddasu ar gyfer ffilmiau anime(yn y Gorllewin gelwir Manga yn "anime" weithiau ond mae anime yn ffurf arbennig, diweddar, ar wahân). Weithiau mae anime llwyddianus yn cael ei droi'n manga, ond eithriad yw hynny.

Er bod nifer fawr o gomics a llyfrau Manga yn cael eu creu ar gyfer plant a phobl yn eu harddegau, camgymeriad fyddai meddwl mai comics cyffredin ydynt. Mae'r Siapaneaid yn cymryd eu manga mewn difri fel ffurf artistaidd arbennig ac mae rhai arlunwyr manga yn cael eu hystyried yn artistiaid mawr. Agwedd arall ar y manga yw'r nifer fawr o lyfrau ar gyfer oedolion ar ffurf cartŵns neu ddarluniau manga, yn amrwyio o fath o nofelau hanesyddol neu ffuglen ffantasi i greadigaethau erotig (Hentai neu Lolikon).

[golygu] Cysylltiadau allanol

Ceir miloedd o wefannau sy'n ymwneud â manga. Rhoddir yma ychydig o'r rhai mwyaf ffeithiol.

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com