Yoshiwara
Oddi ar Wicipedia
Roedd Yoshiwara yn ardal bleser ac adloniant yn hen ddinas Edo (Tokyo heddiw) a anfarwolwyd gan arlunwyr bloc print ukiyo-e fel Utamaro.
Mae ardal Yoshiwara yn dal i fod yn Tokyo heddiw, ond mae'r hen chwarter wedi diflannu am byth; fel sawl ardal arall yn y brifddinas cafodd ei llosgi'n ulw yn ystod cyrchoedd bomio o'r awyr yr Americanwyr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.