See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Petroliwm - Wicipedia

Petroliwm

Oddi ar Wicipedia

Ffynnon olew yng Nghanada
Ffynnon olew yng Nghanada

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol, yr UDA, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a defnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro i roi amryw o ffracsiynau trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.

Taflen Cynnwys

[golygu] Ffurfiant

Mae dwy theori yn bodoli am ffurfiant olew: theori ffurfiant biolegol a theori ffurfiant anfiolegol. Y prif theori yw'r thoeri ffurfiant biolegol, a phrin yw'r daearegwyr sy'n cefnogi'r theori anfiolegol.

[golygu] Theori ffurfiant biolegol

Yn ôl y theori ffurfiant biolegol, casglodd microorganebau morol marw ar waelod y môr. Gorchyddiwyd y gwaddodion organig hyn gan waddodion anathraidd. Ar ôl miliynau o flynyddoedd o dymheredd uchel a gwasgedd sylweddol, caiff y defnydd organig ei ffosileiddio i ffurfio olew crai trwy'r broses o bydredd anaerobig. Nid yw'r olew crai yn hydawdd mewn dŵr, ac mae'n llai dwys felly mae'n arnofio ar wynbeb dŵr. Wrth i ddŵr godi, mae'n gwthio'r olew i fyny tua'r wyneb nes caiff yr olew ei ddal mewn man lle mae'r creigiau athraidd yn cael eu gorchyddio gan creigiau anathraidd. Ffurfir cronfa olew mewn haen plyg o'r craig athraidd, ac mae'r olew yn cael ei ddal yma. Mae'r broses hon yn debyg iawn i broses ffurfiant nwy naturiol.

Hon yw'r theori sy'n cael ei gredu gan y mwyafrif llethol o wyddonwyr, yn enwedig y daearegwyr sy'n chwilio am gronfeudd olew newydd. Nid oes unrhyw cwmni olew ar hyn o bryd yn seilio eu rhaglen archwilio ar unrhyw theori ffurfiant arall.

[golygu] Theori ffurfiant anfiolegol

Yn ôl y theori hon ni ffurfiwyd olew o ddefnydd organig marw, ond o fethan a oedd ar ôl dan y ddaear ers ei ffurfiant. Mae'r moleciwlau biolegeol yn yr olew yn rhai sy'n dod o ficroorganebau yn y creigaiu wrth iddynt casglu yn yr olew.

[golygu] Diwydiant

Caif yr olew crai ei echdynnu o'r ddaear gan gwmniau olew trwy yn gyntaf drilio i lawr drwy'r creigiau anathraidd. Mae'r gwasgedd sylweddol yn y cronfa olew yn achosi'r olew i ddod i'r wyneb. Fel arfer, cludir yr olew i burfeydd olew ar long arbennig a elwir yn dancer olew neu drwy bibell cludo olew. Yn y purfeydd olew, caiff yr olew ei wahanu i'w rhannau trwy broses o ddistylliad ffracsiynnol. Mae'r broses hon yn gwahanu'r olew ar sail ei berwbwynt i arunigo nifer o ffracsiynnau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys (yn nhrefn eu berwbwyntiau cynyddol) nwy petroliwm, petrol, nafftha, cerosin, diesel, olew iro, olew tanwydd, bitwmen a chynhyrchion olew eraill. Caiff y ffranciynnau hyn eu defnyddio fel tanwyddau (petrol, cerosin, diesel) neu fel ffynhonellau o gemegau organig.

Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC sydd yn ceisio dylanwadu'r pris olew crai rhyngwladol trwy rheoli faint o olew caiff ei gynhyrchu.

[golygu] Ystadegau cynhyrchiad a threuliad olew

Cynhyrchiad Treuliad
Cyfanswm y byd: 3450
Gwlad Cynhyrchiad
Sawdi Arabia 427
gwledydd yr Undeb Sofietaidd gynt 393
Unol Daleithiau America 359
Iran 186
Feneswela 172
Mecsico 171
Tsieina 163
Norwy 158
Irac 127
y Deyrnas Unedig 127
Canada 126
Emiradau Unedig Arabaidd 112
Nigeria 103
Kuwait 102
Libia 68
Algeria 66
Indonesia 65
Brasil 64
Oman 49
yr Aifft 39
Angola 37

oddi wrth: Ystadegau gweinyddiaeth diwydiant Ffrainc
2000; rhifau: miliwn tunnellau metrig

Cyfanswm y byd: 3531
Gwlad Treuliad
Unol Daleithiau America 881
Siapan 266
Tsieina 215
Gwledydd yr Undeb Sofietaidd gynt 187
yr Almaen 135
De Corea 100
India 94
Mecsico 93
Ffrainc 90
Brasil 89
Yr Eidal 89
Canada 86
y Deyrnas Unedig 83
Sbaen 64

oddi wrth: Ystadegau gweinyddiaeth diwydiant Ffrainc
1999; rhifau: miliwn tunnellau metrig


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -