Nicole Cooke
Oddi ar Wicipedia
Nicole Cooke, yn gwisgo crys arweinydd Cwpan y Byd 2007.
|
|
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Nicole Cooke |
Dyddiad geni | 13 Ebrill 1983 (25 oed) |
Gwlad | Cymru |
Taldra | 1.67 m |
Pwysau | 58 kg |
Gwybodaeth Tîm | |
Tîm Presennol | Halfords Bikehut |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Amatur | |
–2004 | Cardiff Ajax CC |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2004 2005–2006 2007 2008– |
'Ausra Gruodis-Safi Univega-Raleigh Raleigh Lifeforce Creation Halfords Bikehut |
Prif gampau | |
Pencampwr Iau y Byd x4 Gemau'r Gymanwlad Gemau'r Gymanwlad |
|
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
12 Gorffennaf 2007 |
Seiclwraig rasio proffesiynol yw Nicole Cooke (ganwyd 13 Ebrill 1983, Abertawe), mae hi'n byw yn Lugano, y Swistir.[1].
Magwyd Cooke yn Y Wig, Bro Morgannwg, dechreuodd seiclo yn ifanc. Yn un ar bymtheg oed, enillodd ei theitl cenedlaethol hyn cyntaf. Yn 2001 cafodd ei gwobrwyo gyda'r Bidlake Memorial Prize, a roddwyd ar gyfer perfformiadau diarhebol neu gyfraniad i welliant seiclo. Enillodd bedwar teitl y byd iau, yn cynnwys un ym Mhortiwgal yn 2001.
Cystadlodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2002, ac enillodd y ras ffordd merched mewn diwedd sbrint syfrdanol. Cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru.
Yn 2003 enillodd Cooke ras La Flèche Wallonne Féminine yng Ngwlad Belg. Roedd hi yn y drydydd safle ym Mhencampwriaeth Ras Ffordd y Byd. Hi oedd Pencampwraig Cwpan y Byd Rasio Ffordd Merched yr UCI 2003, yr ifengaf erioed a'r Brydeinwraig cyntaf i wneud hynny. Dioddefodd ddamwain ym mis Hydref, ac wedyn roedd gorfod iddi gael llawdriniaeth i drwsio ei phen-glin.
Yn y flwyddyn ganlynol enillodd y Giro d'Italia Femminine, gan ddod y person ifengaf erioed i wneud hynny. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004 daeth yn 5ed yn y Ras Ffordd Merched a 19eg yn y Treial Amser Merched.
Eto yn 2005, cymerodd y safle cyntaf yn La Flèche Wallonne Féminine a daeth yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd, Seiclo Ffordd. Ym mis Rhagfyr 2005, yn ystod ei pharatoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2006, torrodd ei asgwrn coler wrth gystadlu ar y velodrome yn ystod Cymal Manceinion o Gwpan y Byd; er hyn, enillodd y fedal efydd yn Ras Ffordd y Gemau. Ym mis Medi 2006, ailadroddodd ei thrydydd safle o 2003, ym Mhencampwriaeth Ffordd yr UCI.
Trodd Cooke yn broffesiynol gyda'r tîm Ausra Gruodis-Safi, a dysgodd sut i siarad Eidaleg wrth fyw a rasio yn yr Eidal. Yn niwedd 2005, arwyddodd i'r tîm Univega a oedd wedi'i seilio yn Y Swistir.
Ar 1 Awst 2006, cyhoeddwyd mai hi oedd seiclwraig ffordd rhif un y byd UCI ac ar 3 Medi 2006 enillodd Cwpan y Byd Seiclo Ffordd yr UCI 2006, gyda ras mewn llaw. Roedd hi'n enillydd y Grande Boucle 2006 - fersiwn merched y Tour de France. Yn ystod 2006, enillodd hefyd, Pencampwriaeth Brydeinig Rasio Ffordd, La Flèche Wallonne, La Coupe du Monde Cycliste Féminine de Montréal, a Threial Amser y Magali Pache, Ras Cwpan y Byd Castilla y Leon a Ras Sawl Cam Thüringen-Rundfahrt.
Yn 2007, parhaodd Cooke i ennill gan ddwyn Cwpan y Byd, Geelong a'r Ronde van Vlaanderen, Tour Fflandrys Merched, sef y ddwy ras gyntaf yng Nghwpan y Byd Seiclo Ffordd yr UCI 2007, yn ogystal â'i champ o ennill Trofeo Alfredo Binda ac ail Gam y GP Costa Etrusca. Hi eto, oedd enillydd y Grande Boucle. Ar noswyl cymal olaf Cwpan y Byd, Rasio Ffordd, roedd Nicole yn arwain y gystadleuaeth o 80 o bwyntiau. Roedd wedi bod yn cael trafferthion â'i phen-glin a gohiriodd llawdriniaeth arni hyd 17 Medi er mwyn gallu cystadlu yn y cymal olaf[2]. Rhwystrodd ei phen-glin hi rhag cystadlu'n gryf a gorffennodd yn 34ain safle yn y ras. Roddodd hyn y fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd i Marianne Vos, 70 o bwyntiau o flaen Nicole yn ail.
Mae Nicole yn arwain tîm Halfords Bikehut yn 2008, yn reidio ar feics Boardman. Cafodd ei buddugoliaeth cyntaf 2008 yn Tour de l'Aude, gan ennill y cam cyntaf.[3]
[golygu] Canlyniadau
- 1999
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- (Enillodd y ras hon er ei bod dal yn y categori Iau, gan ddod yr ifengaf erioed i wneud hyn.)
- 2000
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd Merched Iau, Plouay
- 2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Cyclo Cross
- 3ydd Pencampwriaeth y Byd, Beicio Mynydd Merched Iau, Lisbon
- 5ed Grand Prix de Quebec
- 2001
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd Merched Iau, Lisbon
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Treial Amser Merched Iau, Lisbon
- 1af Pencampwriaeth y Byd, Beicio Mynydd Merched Iau, Colorado
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Cyclo Cross (Yr enillwr ifengaf erioed)
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Grand Prix de Quebec
- 1af Crys y Mynyddoedd, Grand Prix de Quebec
- 2002
- 1af Ras Ffordd Merched, Gemau'r Gymanwlad, Manceinion
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af 12fed Trofeo Citta di Rosignano, Yr Eidal
- 1af 4ydd Memorial Pasquale di Carlo, Yr Eidal
- 1af Crys y Mynyddoedd, Trofeo Banca Populaire, Yr Eidal
- 1af Cam 2, Trofeo Banca Populaire, Yr Eidal
- 1af Ronde van Westerbeek, Holland
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro della Toscana
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro del Trentino
- 3ydd Veulta Castilla-y-Leon, Sbaen
- 3ydd Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
- 1af Cam 2, Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
- 1af Crys y Mynyddoedd, Tour Midi Pyrenees, Ffrainc
- 2003
- Enillydd Cwpan y Byd Ras Ffordd Merched yr UCI
- 1af Ras Cwpan y Byd, Amstel Gold
- 1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
- 1af Ras Cwpan y Byd, GP Plouay
- 1af GP San Francisco
- 1af Cam 5 Tour Merched Holland
- 1af Crys y Mynyddoedd, Vuelta Castilla y Leon
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Trofeo Banco Populare Alto Adige
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro Della Toscana
- 1af Cam 3a Giro Della Toscana
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 3ydd Pencampwriaeth y Byd, Ras Ffordd Merched, Hamilton
- 2004
- 1af Giro d'Italia Femminine (Giro Donne)
- 1af Cam 8, Giro d'Italia Femminine (Giro Donne)
- 1af GP San Francisco/T Mobile International
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro Della Toscana
- 1af Crys Pwyntiau, Giro Della Toscana
- 5ed Ras Ffordd Merched, Gemau Olympaidd yr Haf
- 19eg Treial Amser Merched, Gemau Olympaidd yr Haf
- 2005
- 1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
- 1af GP Wallonie, Gwlad Belg
- 1af Trofeo Alfredo Binda, Cittiglio, Yr Eidal
- 1af 15fed Trofeo Citta di Rosignano, Yr Eidal
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Cam 5 Tour Merched Holland
- 1af Cam 1a Giro Della Toscana
- 2il Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd Merched
- 2006
- 1af Rhengoedd y Byd, UCI
- 1af Cwpan y Byd Ras Ffordd Merched yr UCI
- 1af Ras Cwpan y Byd, Castilla y Leon
- 1af Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne Féminine
- 1af Ras Cwpan y Byd, Treial Amser Tîm yr Awr Aur
- 2il Ras Cwpan y Byd, La Coupe du Monde Montréal
- 2il Ras Cwpan y Byd, Open de Suède Vargarda
- 3ydd Ras Cwpan y Byd, GP de Plouay
- 4ydd Ras Cwpan y Byd, Lowland Rotterdam Tour
- 5ed Ras Cwpan y Byd, Berner-Rundfahrt
- 5ed Ras Cwpan y Byd, Rund um die Nürnberger Altstadt
- 6ed Ras Cwpan y Byd, Ronde van Vlaanderen
- 8fed Ras Cwpan y Byd, Geelong
- 1af Grande Boucle Feminine
- 1af Cam 1, Grande Boucle Feminine
- 1af Cam 2, Grande Boucle Feminine
- 1af Thuringen Rundfahrt (Tour Merched yr Almaen)
- 1af Cam 2, Thuringen Rundfahrt
- 1af Cam 4a, Thuringen Rundfahrt
- 1af Cam 4b, Thuringen Rundfahrt
- 1af Cam 5, Thuringen Rundfahrt
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Treial Amser Magali Pache
- 1af Crys y Mynyddoedd, Tour Seland Newydd
- 1af Gwobr Reidiwr Ifanc Gorau, Giro del Trentino
- 3ydd Ras Ffordd Merched, Gemau'r Gymanwlad, Melbourne
- 3ydd Pencampwriaeth y Byd Ras Ffordd Merched
- 2007
- 1af Rhengoedd y Byd, UCI
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Merched Prydain
- 1af Grande Boucle Feminine
- 1af Tour Geelong
- 1af Tour Alfredo Binda
- 1af GP Costa Etrusca
- 2il Cwpan y Byd Ras Ffordd Merched yr UCI
- 1af Ras Cwpan y Byd, Ronde van Vlannderen
- 1af Ras Cwpan y Byd, Geelong
- 2il Ras Cwpan y Byd, GP de Plouay
- 2il Ras Cwpan y Byd, La Flèche Wallonne
- 4ydd Ras Cwpan y Byd, Berner-Rundfahrt
- 5ed Ras Cwpan y Byd, La Coupe du Monde Montréal
- 7fed Ras Cwpan y Byd, Ronde van Drenthe
- 12fed Ras Cwpan y Byd, Open de Suède Vargarda
- 34ain Ras Cwpan y Byd, Rund um die Nürnberger Altstadt
- 4ydd Treial Amser Magali Pache
- 2008
- 4ydd Tour de l'Aude
- 1af Cam 1, Tour de l'Aude
- 10fed Cam 4, Tour de l'Aude
- 7fed Cam 6, Tour de l'Aude
- 3ydd Cam 9, Tour de l'Aude
Rhagflaenydd: Megan Hughes |
Pencampwr Cenedlaethol Ras Ffordd Merched 1999 |
Olynydd: Ceris Gilfillan |
Rhagflaenydd: Ceris Gilfillan |
Pencampwr Cenedlaethol Ras Ffordd Merched 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006 a 2007 |
Olynydd: I ddod |
Rhagflaenydd: Mark Hughes |
Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru 2003 |
Olynydd: Tanni Grey-Thompson |
[golygu] Ffynonellau
- ↑ Vale of Glamorgan with Nicole Cooke Cycling Weekly 21 Medi 2007
- ↑ Vos pips Cooke to World Cup crown BBC 16 Medi 2007
- ↑ 24th Tour de l'Aude - 2.2. Cycling News (25 Mai 2008).
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Nicole Cooke - Gwefan Swyddogol
- (Saesneg) Nicole Cooke - Seiclwraig
- (Saesneg) Cyfweliad gyda Nicole Cooke
- (Saesneg) Seiclwraig Gymreig Nicole Cooke yn hyderus o welliant