Culfor
Oddi ar Wicipedia
Sianel forwrol sy'n cysylltu dau fôr neu ddwy ran o fôr yw culfor. Yn aml mae culfor yn dramwyfa pwysig i longau ac felly o bwysigrwydd economaidd a stragegol. Yr unig enghraifft o gulfor yng Nghymru yw Afon Menai, rhwng Môn ac Arfon.
[golygu] Rhai culforoedd enwog
- Culfor Bab el-Mandeb, rhwng y Môr Coch a Chefnfor India
- Culfor Bass, rhwng Tasmania a thir mawr Awstralia
- Culfor Bering, rhwng Alaska, UDA a Siberia, Rwsia
- Bosphorus, rhwng Môr Marmara a'r Môr Du
- Culfor Cook, rhwng Ynys y De ac Ynys y Gogledd yn Seland Newydd
- Culfor Corea, rhwng De Corea a Siapan
- Culfor Davis, rhwng Greenland ac Ynys Baffin, Canada
- Dardanelles (Hellespont yr Henfyd), rhwng Môr Marmara a'r Môr Aegeaidd
- Culfor Denmarc, rhwng Greenland a Gwlad yr Iâ
- Culfor Dover, rhwng Caint a Fflandrys yn y Môr Udd
- Culfor Fflorida, rhwng Fflorida a Chiwba a'r Bahamas
- Culfor Gibraltar, rhwng Cefnfor Iwerydd a'r Môr Canoldir
- Culfor Hormuz, rhwng Y Gwlff a Gwlff Oman
- Culfor Magellan, De America
- Culfor Makassar, rhwng Borneo a Sulawesi
- Culfor Melaca, rhwng Môr Andaman a moroedd Indonesia yn ne-ddwyrain Asia
- Culfor Messina, rhwng tir mawr Yr Eidal a Sisili
- Culfor Palk, rhwng India a Sri Lanka
- Culfor Yucatan, rhwng Yucatan (Mecsico) a Chiwba