Non
Oddi ar Wicipedia
Y Santes Non (hefyd Nonn, Nonna) oedd mam Dewi Sant. Yn ôl rhai ffynonnellau roedd hi'n ferch uchelwrol, yn ferch i Gynyr a'i wraig Anna ferch Gwerthefyr Fendigaid. Yn ôl Rhigyfarch, awdur y testun Cymraeg Canol Buchedd Dewi, roedd hi'n lleian a dreisiwyd gan y tywysog Sant (neu Sanddef) fab y brenin Ceredig cyn rhoi genedigaeth i Ddewi.
Mae lle i gredu fod nifer o draddodiadau Celtaidd paganaidd wedi eu cysylltu â Non gyda threiglad amser. Yn wir mae rhai arbenigwyr ar fytholeg yn credu ei bod yn un yn y bôn â'r dduwies Geltaidd Dana ('Anna' neu 'Nonna'; ffurf arall a geir ar enw Non yw 'Nonna').
Ceir Capel Non ar lan Bae Sain Ffraid ym Mhenfro. Dywedir i Non ffoi yno ar ôl cael ei threisio ac esgor ar Ddewi yno; ffrydiodd ffynnon o'r tir yn y man. Erys yn ffynnon sanctaidd hyd heddiw.
Ceir beddrod Non yn Finisterre, Llydaw. Am ganrifoedd perfformid y ddrama firagl Lydaweg Buhez Santez Nonn (Buchedd Santes Non) yno.
[golygu] Llyfryddiaeth
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Glyndŵr Publishing, 2000). D.g. 'Non'.
- D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959).