Gwerthefyr
Oddi ar Wicipedia
Gwerthefyr neu Gwerthefyr Fendigaid (Lladin: Vortimer) (fl. 5ed ganrif) oedd fab Gwrtheyrn brenin y Brythoniaid yn hanes traddodiadol Cymru. Dywedir ei fod yn rhyfelwr cadarn a enillodd sawl brwydr yn erbyn y Sacsoniaid oedd yn ceisio meddianu Ynys Prydain.
Cyfeirir at Werthefyr gan Nennius yn yr Historia Brittonum. Ar ôl blynyddoedd o rhyfela yn erbyn y goresgynwyr gorchmynodd i'w deulu i'w gladdu ar arfordir de Lloegr i amddiffyn y wlad, ond anwybyddwyd hynny gyda chanlyniadau trychinebus. Ceir yr un hanes, i bob pwrpas, yng ngwaith Sieffre o Fynwy, ond gyda'r gwahaniaeth fod ei lysfam yn ei wenwynu. Mae un o Drioedd Ynys Prydain yn gwrthddweud Nennius a Sieffre, fodd bynnag, ac yn dweud bod esgyrn y brenin marw wedi'u claddu ym mhrif borthladdoedd yr ynys a bod hynny wedi atal ymosodiadau'r Sacsoniaid am gyfnod.
Mae'n eithaf posibl fod yr hanes traddodiadol yn seiliedig ar ffigwr hanesyddol a deyrnasodd yn Nyfed. Cyfeiria Gildas at un Vortiporius fel Demetarum tyranne Vortipori (Vortipori brenin Dyfed). Fe'i coffeir mewn arysgrif gynnar mewn Lladin ac Ogam o Warmacwydd, Sir Benfro, a ddaeth yno o Gastell Dwyran ger Hendy-gwyn ar Daf. Yn Lladin ceir yr arysgrif Memoria Voteporigis Protictoris ac yn Ogam Votecorigas. Mae'n bosibl mai'r cof am y brenin hwn a geir yn sail i'r traddodiadau am Werthefyr a Vortiporius fel ei gilydd ('Gw(e)rthefyr' yw'r ffurf a geir ar enw'r ddau frenin yn y cyfieithiadau Cymraeg Canol o waith Sieffre o Fynwy).
Yn ôl traddodiad arall roedd Gwerthefyr, trwy ei ferch Anna, yn daid i Non, mam Dewi Sant.
[golygu] Ffynonellau
- Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942). Tud. 276.
- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 1997)