Asia Leiaf
Oddi ar Wicipedia
Asia Leiaf yw'r enw Clasurol am y rhan o orllewin Asia a elwir hefyd yn Anatolia ac sy'n gyfateb yn fras i diriogaeth Twrci heddiw. Mae'n gorwedd rhwng y Môr Du yn y gogledd, y Môr Canoldir yn y de, Môr Marmara a Môr Aegea yn y gorllewin a mynyddoedd Kurdistan, Armenia a'r Cawcasws yn y dwyrain. Mae'r Hellespont yn gorwedd rhyngddi ac Ewrop.
[golygu] Hanes
Am gyfran helaeth o'r ail fileniwm Cyn Crist roedd y rhan fwyaf o Asia Leiaf yn rhan o ymerodraeth yr Hitiaid. Yn sgîl dymchwel yr ymerodraeth honno tua'r flwyddyn 1200 CC, aeth canolbarth a gorllewin y rhanbarth dan ddominyddiaeth Phrygia, a gyrhaeddodd ei huchafbwynt yn yr 8fed ganrif CC. Cwncweriwyd de-ddwyrain Asia Leiaf gan yr ymerodraeth Asyriaidd tua'r un cyfnod. Syrthiodd Phrygia i Lydia yn y 6ed ganrif CC, ac yna yn 546 CC sefydlodd yr ymerodr Persiaidd Cyrus Fawr ei afael ar Asia Leiaf.
Yn 333 CC fe'i goresgynwyd gan Alecsander Mawr o Facedon. Wedi i Alecsandr farw rhannwyd y rhanbarth yn gyfres o fân frehiniaethau fel Pergamum, Cappadocia, Bithynia a Pontus yn y gogledd a'r gorllewin tra fu'r de yn faes ymrafael rhwng y Seleuciaid a'r Ptolemiaid, olynwyr Alecsandr.
Rhwng 200 CC a diwedd y ganrif gyntaf CC ymestynnai'r Rhufeiniaid eu gafael ar Asia Leiaf ac aeth yr hen deyrnasoedd yn daleithiau Rhufeinig. Yn ddiweddarach roeddynt yn rhan o'r ymerodraeth ddwyreiniol ac yna Bysantiwm.
Ar ôl cael ei goresgyn gan y Tyrciaid Seljukaidd yn yr 11eg ganrif a syrthio'n ysglyfaeth i'r Mongoliaid yn y 13eg ganrif, cafodd Asia Leiaf ei hymgorffori yn yr Ymerodraeth Ottoman yn ystod y 14eg a'r 15fed ganrif.