Ethiopia
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Dim | |||||
Anthem: Wodefit Gesgeshi, Widd Innat Ityopp'ya (Cerdda ymlaen, fy annwyl Fam Ethiopia) | |||||
Prifddinas | Addis Ababa | ||||
Dinas fwyaf | Addis Ababa | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Amhareg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth ffederal | ||||
- Arlywydd | Girma Wolde-Giorgis |
||||
- Prif Weinidog | Meles Zenawi |
||||
Sefydlu - Dyddiad traddodiadol |
10fed ganrif |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
1,104,300 km² (26fed) 0.7 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 1994 - Dwysedd |
53,477,265 (15fed) 75,067,000 70/km² (124fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $59,930,000,000 (69fed) $800 (173fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.367 (170fed) – isel | ||||
Arian cyfred | Birr (ETB ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+3) (UTC+4) |
||||
Côd ISO y wlad | .et | ||||
Côd ffôn | +251 |
Gwlad yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Ffederal Ethiopia neu Ethiopia. Mae'n ffinio ag Eritrea i'r gogledd, Swdan i'r gorllewin, Kenya i'r de a Somalia a Djibouti i'r dwyrain. Addis Ababa yw'r brifddinas.
[golygu] Hanes
Diorseddwyd yr ymerawdwr Iyasu yn 1916, daeth ei fodryb Zewditu yn ymerodres, ac enwyd Tafari Makonnen yn aer i'r goron ac yn llywodraethwr y deyrnas.
Pan ddaeth Tafari Makonnen yn ymerawdwr yn 1930 ar farwolaeth Zewditu, cymerodd yr enw Haile Selassie, sy'n golygu "Grym y Drindod". Yn ystod ei deyrnasiad o 45 mlynedd, gwnaeth Haile Selassie lawer i geisio moderneiddio Ethiopia, ac enillodd boblogrwydd mawr yn Affrica a thu hwnt. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1936 trwy ei araith i Gynghrair y Cenhedloedd yn condemnio defnydd yr Eidal o arfau cemegol yn eu hymdrech i oresgyn Ethiopia.
Aeth Haile Selassie yn fwy ceidwadol wrth iddo heneddio, a theimlai carfan yn Ethiopia nad oedd y wlad yn cael ei moderneiddio'n ddigon cyflym. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a diorseddwyd ef ar 12 Medi 1974.
[golygu] Crefydd
Mae tua hanner y boblogaeth yn aelodau o Eglwys Uniongred Ethiopia, a'r hanner arall yn ddilynwyr Islam.