Japaneg
Oddi ar Wicipedia
Japaneg (日本語 Nihongo, Siapaneg, Siapanaeg) yw iaith swyddogol Japan gyda dros 130 miliwn o siaradwyr. Siaredir Japaneg yn Brasil, Taiwan, Ynysoedd Marshall, Palau, Guam a'r Unol Daleithiau hefyd.
Mae yna ddadlau ymysg ieithyddwyr ynglŷn â gwreiddiau'r iaith. Mae rhai yn dadlau'n gryf fod yr iaith yn perthyn i'r teulu Altaig (Altaic), sydd hefyd yn cynnwys Tyrceg a'i canghennau, Mongoleg ac iaith Corea. Cred ieithyddwyr eraill fod y Japaneg yn rhannu nodweddion â llawer o ieithoedd Awstralasia, tra bod eraill yn credu ei bod hi'n iaith gyfan gwbwl ar wahan.
Er bod yna anghytundeb ynglŷn a gwreiddiau'r iaith, ni ellir dadlau dylanwad cryf y Tsieinëeg ar yr iaith, gyda rhai yn dadlau bod hanner geirfa'r Siapanaeg yn deillio o'r Tsieinëeg. Mae Japaneg modern yn defnyddio system ysgrifennu Tsieina (kanji 漢字), yn ogystal â dau system â ddatblygwyd yn Siapan ei hun, sef hiragana (平仮名), a katakana (片仮名). Mae'r wyddor Lladin, rōmaji, yn cael ei ddefnyddio'n aml mewn Japaneg modern, yn enwedig ar gyfer enwau cwmnïau, hysbysebu ac wrth mewnbynnu Japaneg i mewn i gyfrifiadur.
[golygu] Ymadroddion defnyddiol
- Helo: こんにちは konnichiwa
- Bore da: おはようございます ohayō gozaimasu
- Hwyl fawr: さようなら sayōnara
- Diolch: ありがとう arigatō
- Japan: 日本 Nihon
- Japaneg: 日本語 Nihongo
- Cymru: ウェールズ Uēruzu
- Cymraeg: ウェールズ語 Uēruzugo
- Cymry/Cymro/Cymraes: ウェールズ人 Uēruzujin
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
- Kuno, Susumu. (1973). The structure of the Japanese language. Cambridge, MA: MIT Press. ISBN 0-262-11049-0.
- Martin, Samuel E. (1975). A reference grammar of Japanese. New Haven: Yale University Press. ISBN 0-300-01813-4.
- McClain, Yoko Matsuoka. (1981). Handbook of modern Japanese grammar: 口語日本文法便覧 [Kōgo Nihon bumpō benran]. Tokyo: Hokuseido Press. ISBN 4-590-00570-0; ISBN 0-89346-149-0.
- Miller, Roy. (1967). The Japanese language. Chicago: University of Chicago Press.
- Miller, Roy. (1980). Origins of the Japanese language: Lectures in Japan during the academic year, 1977-78. Seattle: University of Washington Press. ISBN 0-295-95766-2.
- Mizutani, Osamu; & Mizutani, Nobuko. (1987). How to be polite in Japanese: 日本語の敬語 [Nihongo no keigo]. Tokyo: Japan Times. ISBN 4789003388.
- Shibatani, Masayoshi. (1990). Japanese. In B. Comrie (Ed.), The major languages of east and south-east Asia. Llundain: Routledge. ISBN 0-415-04739-0.
- Shibatani, Masayoshi. (1990). The languages of Japan. Caergrawnt: Cambridge University Press. ISBN 0-521-36070-6 (hbk); ISBN 0-521-36918-5 (pbk).
- Shibamoto, Janet S. (1985). Japanese women's language. New York: Academic Press. ISBN 0-12-640030-X.
- Tsujimura, Natsuko. (1996). An introduction to Japanese linguistics. Cambridge, MA: Blackwell Publishers. ISBN 0-631-19855-5 (hbk); ISBN 0-631-19856-3 (pbk).
- Tsujimura, Natsuko. (Ed.) (1999). The handbook of Japanese linguistics. Malden, MA: Blackwell Publishers. ISBN 0-631-20504-7.