See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Urien Rheged - Wicipedia

Urien Rheged

Oddi ar Wicipedia

Brenin Rheged, un o deyrnasoedd Brythoniaid yr Hen Ogledd oedd Urien Rheged (c.550-590). Fe'i cofir yn y traddodiad barddol Cymraeg fel un o brif noddwyr y Taliesin hanesyddol. Cedwir wyth gerdd i Urien gan Daliesin yn Llyfr Taliesin. Canodd Taliesin i Owain, fab Urien, yn ogystal. Roedd ganddo dri fab arall, Rhiwallon fab Urien, Rhun a Pasgen, ond Owain a'i olynodd. Cyfeirir at Urien yn Nhrioedd Ynys Prydain fel 'arweinydd cad Prydain.' Yn ôl Nennius yn yr Historia Brittonum, cafodd ei lofruddio ar orchymyn ei gynghreiriad Morgant Bwlch, oedd yn genfigennus o'i lwyddiant, ond nid oes cyfeiriad arall at hynny.

Yn ôl yr achau a geir yn llawysgrif Harley 3859, roedd Urien yn fab Cynfarch ap Meirchiawn ap Gwrwst ap Coel Hen. Mae Ifor Williams yn dangos mai Urbgen, a droes yn *Urfgen ac yno Urien, oedd y ffurf gynharaf ar ei enw. Mae Rachel Bromwich yn cynnig mai'r enw Brythoneg *Orbogenos ('Un o enedigaeth freintiedig') yw tarddiad yr enw.

Yng Nghanu Taliesin cyferchir Urien fel Glyw Reget (Arglwydd Rheged). Roedd Catraeth yn ei feddiant y pryd hynny, cyn iddi syrthio i wŷr Northumbria (ceir yr hanes yn Y Gododdin, cerdd enwog Aneirin); 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth) yw Urien yn ôl Taliesin. Molir Urien am ei ddewrder mewn brwydr yng Ngwên Ystrad (Dyffryn Eden efallai) yn erbyn y Pictiaid (neu'r Saeson). Sonnir am gyrch yn erbyn Manaw Gododdin (i'w adennill efallai) a buddugoliaeth yn erbyn Fflamddwyn ym mwrydr Argoed Llwyfain ('Gweith Argoet Llwyfein'). Ymddengys fod Taliesin wedi canu i'r brenin sawl gwaith dros y blynyddoedd oherwydd mewn rhai cerddi mae Urien ei hun ar flaen y gad ond ar y llaw arall mewn dwy gerdd, diweddarach mae'n debyg, mae ei fab Owain yn arwain ac Urien yn y cefndir.

Mae'r portread o Urien fel brenin arwrol sy'n rhadlon i'w ddeiliad ond yn ffyrnig mewn brwydr yn erbyn y gelyn yn gosod y seiliau i'r portread confensiynol o frenhinoedd yn y traddodiad barddol am ganrifoedd.

Yn ogystal â Thaliesin, ceir cyfeiriad at fardd o'r enw Tristfardd yn canu i Urien; fe'i enwir yn 'Tristfardd, bardd Urien' yn Nhrioedd Ynys Prydain.

[golygu] Cyfeiriadau

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tt. 516-17.
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960).



aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -