Ifor Williams
Oddi ar Wicipedia
Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 1881 – 4 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywgraffiad
Fe'i ganed yn Mhendinas, Tregarth, ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.
[golygu] Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd
Roedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, sef y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938, y testun safonol cyntaf o'r Gododdin), Armes Prydain (1955) a Chanu Taliesin (1960).
Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964 a golygydd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1937 tan 1948. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.
[golygu] Rhai gweithiau eraill
Un o hoff bynciau Ifor Williams oedd enwau lleoedd Cymraeg ac erys ei gyfrol Enwau Lleoedd (1945) yn gyflwyniad safonol i'r pwnc. Ysgrifennodd yn ogystal Meddwn I (1946), cyfres o draethodau radio poblogaidd ar bynciau amrywiol. Mae'r gyfrol I Ddifyrru'r Amser (1959) yn cynnwys nifer o ysgrifau byr amrywiol, e.e. atgofion am ei blentyndod, myfyrdodau, ac ati.
[golygu] Gweithiau
Ceir llyfryddiaeth lawn o waith Ifor Williams yn y gyfrol Sir Ifor Williams[:] A Bibliography, gol. Alun Eirug Davies (allbrintiwyd o Studia Celtica IV). Defnyddiol hefyd yw Mynegai i weithiau Ifor Williams, gol. Thomas Parry (Caerdydd, 1939).
- Breuddwyd Maxen. Bangor: Jarvis a Foster, 1908.
- Casgliad o waith Ieuan Deulwyn. Bangor: Welsh Manuscripts Society, 1909.
- Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
- Cywyddau Iolo Goch ac eraill, 1350–1450. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925 (ail argraffiad 1938).
- Canu Llywarch Hen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
- Pedeir Keinc y Mabinogi. Cardydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
- Canu Aneirin, gyda rhagymadrodd a nodiadau. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938.
- Lectures on early Welsh poetry. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
- Enwau lleoedd. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
- Chwedl Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957.
- Canu Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.