Tudwal Tudclyd
Oddi ar Wicipedia
Brenin cynnar ar deyrnas Frythonaidd Ystrad Clud oedd Tudwal Tudclyd. Roedd yn dad i Rhydderch Hael (m. tua 604) ac felly buasai yn ei flodau tua chanol y 6ed ganrif.
Cyfeirir at Dudwal mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel tad Rhydderch.
Ystyr yr enw Tudwal yw "Arweinydd y bobl" (tud 'pobl', cf. Gwyddeleg túath + Hen Gymraeg gwâl 'arweinydd'), ac mae Tudclyd yn golygu "Amddiffynwr y bobl" (clyd 'cysgod, amddiffyn').
Ceir mwy nag un traddodiad am dras Tudwal. Mae un o'r achau yn ei wneud yn fab i ryw Eidinet (Ednyfed?) ac felly'n un o ddisgynyddion Macsen Wledig, ond mae ach arall yn ei wneud yn ddisgynydd i'r arwr Dyfnwal Hen.
Roedd Tudwal yn berchen un o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain:
- (H)ogalen Tudwal Tutklyd: o hogai wr dewr (e)i gleddyf arni, od enwaedi ar wr, marw fyddai; ag os hogai wr llwfr, ni byddai waeth.
Cyfeirir at Dudwal (os yr un gŵr ydyw) ym Muchedd Sant Ninian gan Ailred o Rievaulx (12fed ganrif). Yn ôl y fuchedd roedd Tuduvallus yn frenin bechadurus a gosbwyd trwy ei wneud yn ddall. Ymddengys fod y fuchedd yn seiliedig ar ffynonellau o'r 8fed ganrif.
[golygu] Cyfeiriadau
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991)
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |