Rhiwallon fab Urien
Oddi ar Wicipedia
Un o feibion Urien Rheged (fl. 550-90), brenin teyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd, oedd Rhiwallon fab Urien, a elwir hefyd yn Rhiwallon Wallt Banhadlen (fl. ail hanner y 6ed ganrif - dechrau'r 7fed ganrif?).
Roedd ganddo dri frawd, sef Owain, Rhun a Pasgen. Ei frawd Owain a etifeddodd y deyrnas pan laddwyd Urien Rheged: canodd y bardd Taliesin iddo, ac i Urien hefyd, ond ni cheir canu ar glawr i Riwallon ei hun.
Ychydig o wybodaeth sydd gennym amdano, ond mae ganddo le yn hanes traddodiadol Cymru. Cyfeirir ato yn y Trioedd fel arweinydd un o 'Dri Hualogion Deulu Ynys Brydain', gyda theulu (gosgordd neu fintai o ryfelwyr) Cadwallon Llawhir a theulu Belyn o Lŷn. Cyfeiriad digon moel ydyw, sy'n cyfeirio at fintai Rhiwallon "yn ymladd â['r] Saeson". Cynigir Rachel Bromwich fod y term "hualogion" yn cyfeirio at ryw fath o insignia brenhinol.
Mae'r ddau gyfeiriad arall yn llai sicr, ond credir mai'r un yw "Rhiwallon Wallt Banhadlen" (a'i wallt yn felyn, yr un lliw â banadl) a Rhiwallon fab Urien. Roedd yn un o "Dri Deifniog" Ynys Brydain, gyda Gwalchmai fab Gwyar a Llachau fab Arthur; mae'r gair deifniog yn golygu "pwysig, sylweddol, cyfoethog" ac yn awgrymu statws brenhinol eto. Cyfeirir ato fel un o "Dri Hualog Ynys Brydain" hefyd, gyda Cadwaladr Fendigaid a Rhun ap Maelgwn Gwynedd.
[golygu] Cyfeiriadau
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1961; argraffiad newydd, 1991). Trioedd 4, 17, 62.
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |