See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Dygynnelw - Wicipedia

Dygynnelw

Oddi ar Wicipedia

Bardd a gysylltir ag Owain mab Urien Rheged yw Dygynnelw. Os gwir y traddodiad buasai yn ei flodau yn ail hanner y 6ed ganrif ac yn gyfoeswr â Thaliesin, yntau'n fardd a ganodd i Urien yn yr Hen Ogledd yn y cyfnod hwnnw.

Dim ond tri chyfeiriad a geir at Ddygynnelw. Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Tristfardd ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):

'Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.'

Mewn testun canoloesol sy'n ymwneud â chrefft y bardd llys, dywedir am amrywiad ar yr englyn unodl union ei fod yn 'englyn anghyfodl yr hwn a elwir "dull Dyg[yn]nelw"'.

Yn olaf enwodd y Gogynfardd Cynddelw Brydydd Mawr ei fab yn Ddygynnelw a chanodd farwnad nodedig iddo. Mae Rachel Bromwich yn awgrymu fod Cynddelw wedi dewis enwi ei fab ar ôl y Cynfardd (mae Dygynnelw yn enw anghyffredin iawn).

Yn anffodus mae gwaith Dygynnelw i gyd ar goll, ond mae'n amlwg ei fod o statws arbennig yn y traddodiad cynnar.

[golygu] Ffynonellau

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (argraffiad newydd, Caerdydd, 1991), triawd 11, t. 331.
  • Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr (Caerdydd, 1991), t. 367.



aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -