Talhaearn Tad Awen
Oddi ar Wicipedia
Talhaearn Tad Awen (fl. 6ed ganrif) oedd un o'r beirdd cynharaf yn y Traddodiad Barddol Cymraeg. Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a'r Hengerdd. Roedd yn gyfoeswr i Aneirin a Taliesin.
Ceir y cyfeiriad cynharaf ato gan Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):
- 'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'[1]
Cyfeirir at Dalhaearn mewn cerdd o'r enw 'Angar Cyfyndawd' a geir yn Llyfr Taliesin. Mae'n perthyn i gylch o gerddi am y Taliesin chwedlonol. Dywedir ei fod 'mwyaf y sywedydd' ("y mwyaf o'r doethion").
Enwir Talhaearn yn un o Drioedd Ynys Brydain. Dywedir fod Talhaearn yn derbyn "gant o fuchod bob dydd Sadwrn" gan Aneirin (fel tal neu wobr efallai). Awgrymir y posiblrwydd fod chwedl goll am ymryson neu gydymgais rhwng Talhaearn ac Aneirin.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, t. ix.
- Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. new, 1991)
[golygu] Gweler hefyd
|
|
---|---|
Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Ynys Metcauld |
Gweler hefyd: |