Awen
Oddi ar Wicipedia
Yr Awen yw ysbrydoliaeth farddol yn y traddodiad barddol Cymraeg. I ryw raddau mae'n cyfateb i'r muse clasurol ac yn perthyn i draddodiadau cyffelyb a geir gan bobloedd Indo-Ewropeaidd eraill.
Roedd y beirdd Rhufeinig fel Ofydd yn cyfeirio'n aml at yr Awen yn eu cerddi. Dyma Ofydd yn yr Ars Amatoria er enghraifft:
- Est deus in nobis et sunt commercia caeli:
- Sedibus aetheritus spiritus ille venit.
- ('Y mae duw ynom, ac ymwneud â'r nefoedd:
- O'r trigfannau fry y daw'r ysbrydoliaeth honno)
Mae Nennius yn cyfeirio at fardd cynnar o'r enw Talhaearn Tad Awen yn ei Historia Brittonum. Cyfeiria Gerallt Gymro at yr awenyddion, beirdd neu broffwydi a oedd yn datgan daroganau dan ysbrydoliaeth yr Awen.
Roedd yn arfer gan y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd gyfarch yr Awen ar ddechrau cerdd, naill ai'n uniongyrchol neu i'w gofyn fel rhodd gan Dduw. Yn aml fe'i cysylltir â phair Ceridwen, ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth y Taliesin chwedlonol. Er enghraifft:
- 'Cyfarchaf i'm Rhên cyfarchfawr awen,
- Cyfrau Cyridfen, rwyf barddoni,
- Yn null Taliesin yn nillwng Elffin.'
(Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch), c. 1173-1220)
[golygu] Dadl yr Awen
Ond nid oedd pawb yn derbyn tarddiad "paganaidd" yr Awen. Eisoes yng ngwaith Beirdd y Tywysogion gwelir tueddiad gan rai beirdd i bwysleisio bod yr Awen yn tarddu o'r Duw Gristnogol. Rhai canrifoedd yn ddiweddarach ymosododd y bardd Siôn Cent ar yr "Awen baganaidd" gan ei gwrthwynebu â'r "Awen Gristnogol." Cyrhaeddodd y ddadl ei huachafbwynt ar ddiwedd yr 16eg ganrif yn yr ymryson barddol enwog rhwng Edmwnd Prys (1543 - 1623), archddiacon Meirionnydd, a'r bardd Wiliam Cynwal (m. 1587 neu 1588).
[golygu] Llyfryddiaeth
- Y Chwaer Bosco, 'Awen y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd', yn Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (gol.), Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996).
- Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)