See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Justinianus I - Wicipedia

Justinianus I

Oddi ar Wicipedia

Justinianus I, mosaic yn Masilica San Vitale, Ravenna.
Justinianus I, mosaic yn Masilica San Vitale, Ravenna.

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 527 a 565 oedd Justinianus I, hefyd Justinian I neu Justinianus Fawr (Lladin: Flavius Petrus Sabbatius Justinianus, Groeg: Φλάβιος Πέτρος Σαββάτιος Ιουστινιανός (482/48313 neu 14 Tachwedd 565).

Ganed Justinianus yn Illyria; mae'n ymddangos mai Lladin oedd ei iaith gyntaf. Aeth ei ewythr Justinus i Gaergystennin a phan daeth yn ddylanwadol yn y gard ymerodrol, galwodd Justinianus yno ato a'i fabwysiadu. Daeth Justinus ym ymerawdwr, a chredir i Justinianus fod a rhan bwysig yn rheoli'r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad ef. Ar farwolaeth Justinus, daeth Justinianus yn ymerawdwr ar 9 Awst 527.

Cafodd Justinianus ddylwanwad mawr ar yr ymerodraeth. Dechreuodd ymgyrch i ad-ennill y tiriogaethau a gollwyd gan yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, y renovatio imperii neu "adfer yr ymerodraeth". Dan gadfridogion fel Belisarius a Narses, enillwyd tiriogaethau eang yn ôl yn y gorllewin, er na allodd yr ymerodraeth ddal ei gafael arnynt yn y pen draw.

Bu Justinianus hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu Cyfraith Rhufain, y Corpus Juris Civilis sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Bu adfywiad diwylliannol yn ystod ei deyrnasiad hefyd, gan gynnwys adeiladu eglwys enwog Hagia Sophia yng Nghaergystennin.

Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Justinianus gan Bla Justinianus, yn ôl pob tebyg y Pla Du, a darawodd yr ymerodraeth yn y 540au cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Justinianus ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd Procopius.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -