Illyria
Oddi ar Wicipedia
Yn y cyfnod clasurol, roedd Illyria (Hen Roeg: Ἰλλυρία; Lladin: Illyria) yn diriogaeth yn rhan orllewinol y Balcanau. Preswylid yr ardal gan nifer o lwythau yn perthyn i grŵp ethnig yr Illyriaid. Daeth yn dalaith Rufeinig Illyrium. Rhwng y 6ed a'r 8fed ganrif goresgynnwyd yr ardal gan y Slafiaid. Mae'r hen Illyria yn awr yn ffurfio gwledydd Montenegro, Slofenia, Croatia, Bosnia a Herzegovina, a Serbia.
Ym mytholeg Groeg, roedd Illyrius yn fab i Cadmus a Harmonia, ddaeth yn rheolwr Illyria ac yn gyndad i bobloedd Illyria.