See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gweddi'r Arglwydd - Wicipedia

Gweddi'r Arglwydd

Oddi ar Wicipedia

Gweddi Gristnogol o'r Testament Newydd yn y Beibl ydy Gweddi'r Arglwydd, neu'r Pader, neu Ein Tad (ar ôl y geiriau agoriadol). Mae'n debyg y cyfieithwyd y fersiwn sy'n gyfarwydd heddiw i'r Gymraeg naill ai o'r Saesneg neu o'r Lladin tua'r 16eg ganrif.

Gweddi Ladin oedd hi ar y dechrau, a adwaenid fel Y Pader (Lladin: Paternoster 'Ein Tad'). Daw o'r fersiwn o Efengyl Mathew yn y Beibl Fwlgat canoloesol.

Taflen Cynnwys

[golygu] Gweddi'r Arglwydd yn y Gymraeg

Ceir y cyfieithiad Cymraeg cynharaf sydd ar glawr yn y testun Cymraeg Canol Pwyll y Pader (13eg ganrif efallai), a gedwir yn Llyfr yr Ancr (14eg ganrif). Er bod cyfieithiad Cymraeg yn bod mor gynnar â hynny, yn Lladin byddai pobl yn adrodd Gweddi'r Arglwydd yn yr Oesoedd Canol.

[golygu] Y fersiwn Cymraeg Canol

Ein Tad ni, yr hwn ysydd yn y nefoedd,
Cadarnhaer dy Enw di, Arglwydd.
Doed dy deyrnas di arnam ni.
Bid arnam dy [e]wyllys di megys y mae yn y nef
[ac felly] yn y ddaear.
Dyro di ein bara beunyddiawl.
Maddeu di, Arglwydd, ein pechodeu i ni a wnaetham i'th erbyn,
megys y maddeuwn ninneu i ereill, o'th drugaredd ditheu,
yr hwnn a wnaethant i'n herbyn ninneu.
Na ddwg ti ni ym mhrofedigaeth.
Rhyddhâ di ni, Arglwydd, y gan y drwg.[1]

[golygu] Y weddi Gymraeg ddiweddar

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy Enw.
Deled dy deyrnas.
Gweneler dy ewyllys megis yn y nef,
felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddyw ein bara begunyddiol.
A maddeu i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag y drwg.
Amen.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), 'Pwyll y Pader', yn Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986). Diweddarwyd yr orgraff wreiddiol yn sylweddol.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -