Fflorens
Oddi ar Wicipedia
Gorwedda Fflorens (Eidaleg: Firenze) ar lannau Afon Arno yn yr Eidal. Hi yw dinas fwyaf rhanbarth Toscana yng nghanolbarth y wlad, gyda phoblogaeth o tua 400,000. Ers canrifoedd mae Fflorens yn enwog fel un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf yr Eidal ac Ewrop. Mae ganddi nifer o adeiladau a henebion canoloesol ac o oes y Dadeni ac mae ei hamgueddfeydd yn cynnwys rhai o'r casgliadau celf gorau yn y byd. Ymhlith ei henwogion y mae Dante a Michelangelo.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Dechreuodd hanes Fflorens yn 59 CC pan sefydlodd y Rhufeiniaid goloni ar gyfer cyn-filwyr o'r enw Florentia. Roedd Fflorens wedi tyfu'n ganolfan fasnach a diwydiant bwysig erbyn y 12fed ganrif. Cawsai'r ddinas ei rhwygo'n aml yn yr ymgyrchoedd rhwng pleidiau'r Guelfi a'r Ghibellini yn ystod y ddwy ganrif nesaf, ond serch hynny flodeuodd celf a diwylliant. O'r 15fed i'r 18fed ganrif bu dan reolaeth teulu'r Medici, a hybai gelf a phensaernïaeth yn y ddinas. O ganlyniad mae nifer yn ystyried mai Fflorens yw man geni y Dadeni Dysg. Yn dilyn cyfnod dan reolaeth Awstria daeth Fflorens yn rhan o deyrnas newydd yr Eidal yn 1861. Am gyfnod byr (rhwng 1865 a 1871) roedd yn brifddinas dros dro teyrnas yr Eidal. Bu i'r ddinas ddioddef cryn dipyn o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn heddiw mae hi'n ganolfan dwristiaeth bwysig ac yn dal i gyfrannu'n sylweddol i fywyd diwylliannol yr Eidal ac Ewrop.
[golygu] Treftadaeth
Mae tystiolaeth o oes y Dadeni i'w gweld ymhobman yn Fflorens. Er mai Gothig yw arddull y gadeirlan (y Duomo), cynlluniwyd y gromen enfawr gan y pensaer Filippo Brunelleschi, sydd hefyd yn gyfrifol am nifer o adeiladau clasurol y ddinas, gan gynnwys ysbyty Ospedale degli Innocenti, eglwysi San Lorenzo a Santo Spirito a'r Capella Pazzi.
Lleolir y Palazzo Vecchio, plas canoloesol a ddefnyddir fel neuadd y ddinas hyd heddiw, yn y Piazza della Signoria. Dyma yn wreiddiol oedd lleoliad cerflun enwog Michelangelo o Ddafydd. Mae'r cerflun bellach yn oriel yr Accademia ac mae copi wedi cymryd ei le yn y sgwâr. Gerllaw mae'r Uffizi, un o'r orielau celf cyhoeddus cyntaf erioed. Hefyd yn y ddinas mae'r Biblioteca Nazionale, Llyfrgell Genedlaethol yr Eidal a'r brifysgol, a sefydlwyd yn 1321.
[golygu] Enwogion y ddinas
- Dante Alighieri
- Donatello
- Girolamo Savonarola
- Niccolò Machiavelli
- Michelangelo
- Florence Nightingale
- Franco Zeffirelli
[golygu] Pêl droed
Prif dîm pêl droed y ddinas yw ACF Fiorentina.
[golygu] Gefeilldrefi
Mae gan Fflorens gysylltiadau pwysig ym myd addysg, diwylliant a diwydiant a Chaeredin.
Mae ei gefeillddinasoedd yn cynnwys: