Y Môr Baltig
Oddi ar Wicipedia
Môr rhwng Scandinafia a gwledydd cyfandir Ewrop yw'r Môr Baltig. Mae cyswllt o Fôr y Gogledd i'r Môr Baltig trwy Skagerrak a Kattegat, culforoedd rhwng Denmarc, Norwy a Sweden. Mae maint ei wyneb yn 413,000 km² ac mae hi'n cynnwys 21,600 km³ o ddŵr. Gyda dyfnder cyfartalog o 52m, sy'n ymestyn i 459m ar ei ddyfnaf, mae'n fôr bas iawn. Yn ogystal dim ond 1% o gynnwys y dŵr sy'n halen yn y môr hwn, sy'n golygu ei fod yn llai hallt na moroedd eraill.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Y gwledydd ac ardaloedd o gwmpas y Môr Baltig yw Sweden, y Ffindir, Ffederasiwn Rwsia, Estonia, Latfia, Lithuania, Kaliningrad Oblast (clofan bychan Ffederasiwn Rwsia), Gwlad Pwyl, yr Almaen a Denmarc.
Y gylffiau mawr yw Gwlff Bothnia rhwng Sweden a'r Ffindir, Gwlff y Ffindir rhwng y Ffindir a'r gwledydd Baltaidd a Gwlff Riga rhwng Estonia a Latfia.
Yr ynysoedd mwyaf yw Gotland ac Öland (Sweden), Åland (y Ffindir), Hiiumaa a Saaremaa (Estonia). Ceir ynysoedd niferus oddi ar dir mawr Denmarc, e.e. Bornholm, Sjælland a Fyn. Mae Åland yn dalaith annibynnol a heb arfbais yn y Ffindir. Mae'r bobl sydd yn byw ar yr ynys yn siarad Swedeg ac mae baner sydd yn wahanol iawn i un y Ffindir gan yr ynys. Mae'n aelod-wladwriaeth annibynnol yng Nghyngor y Gogledd (Nordic Council).
Mae'n bosib mynd trwy afonydd a chamlesi i Afon Volga yn Rwsia, ac oddi yno ymlaen i'r Môr Gwyn, y Môr Du, Môr Asof a Môr Caspia.
Mae'r Môr Baltig yn enwog am ei ambr.
[golygu] Gwledydd y Môr Baltig
Gwledydd sy'n ffinio â'r môr:
Gwledydd sydd ym masn y Baltig ond sydd heb ffinio â'r môr:
[golygu] Ynysoedd a gorynysoedd
- Åland Islands (Y Ffindir, hunanlywodraethol)
- Môr y Gorynys (Y Ffindir)
- Pargas
- Nagu
- Korpo
- Houtskär
- Kustavi
- Bornholm (Denmarc)
- Gotland (Sweden)
- Hailuoto (Y Ffindir)
- Hiiumaa (Estonia)
- Kotlin (Rwsia)
- Muhu (Estonia)
- Öland (Sweden)
- Rügen (Yr Almaen)
- Saaremaa (Estonia)
- Gorynys Stockholm (Sweden)
- Värmdön (Sweden)
- Usedom neu Uznam (rhennir rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl)
- Valassaaret (Y Ffindir)
- Wolin (Gwlad Pwyl)
[golygu] Dinasoedd a phorthladdoedd
Y dinasoedd arfordirol mwyaf:
- St Petersburg (Rwsia) 4,700,000
- Stockholm (Sweden) 774,411 (Stockholm Fwyaf 1,729,274)
- Riga (Latfia) 760,000
- Helsinki (Ffindir) 559,716 (Helsinki Fwyaf: 1,200,000)
- Copenhagen (Denmarc) 502,204 (Copenhagen Fwyaf: 1,823,109) (yn wynebu Oresund)
- Gdańsk (Gwlad Pwyl) 462,700 (1,041,000 yn cynnwys Gdansk Fwyaf)
- Szczecin (Gwlad Pwyl) 413,600
- Tallinn (Estonia) 401,774
- Kaliningrad (Rwsia) 400,000
- Malmö (Sweden) 259,579 (yn wynebu Oresund)
- Gdynia (Gwlad Pwyl) 255,600
- Kiel (Yr Almaen) 250,000
- Lübeck (Yr Almaen) 216,100
- Rostock (Yr Almaen) 212,700
- Klaipėda (Lithuania) 194,400
- Turku (Ffindir) 175,000
Porthladdoedd pwysig (er nad yn ddinasoedd mawr):
- Kotka (Ffindir) 55,000
- Świnoujście (Gwlad Pwyl) 50,000
- Ventspils (Latfia) 44,000
- Baltiysk (Rwsia) 20,000
- Puck (Gwlad Pwyl) 15,000
- Hanko (Ffindir) 10,000
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Pwyleg) (Saesneg) (Almaeneg) Môr Baltig
- (Pwyleg) (Saesneg) (Almaeneg) Môr Baltig