Shotton
Oddi ar Wicipedia
Tref yn Sir y Fflint ar Lannau Dyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Shotton. Mae ganddi boblogaeth o tua 9,000 o bobl. Mae'n gorwedd ar yr A548 rhwng Y Fflint a Queensferry, tair milltir o'r ffîn â gogledd-orllewin Lloegr. Mae ganddi orsaf trenau ar Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mae trac arall yn ei chysylltu â Wrecsam.
Cafodd y dre ei sefydlu fel pentre bach gan y Mersiaid ond newidiai ddwylo'n aml ar ôl hynny. Ni thyfodd lawer tan y 18fed ganrif pan agorwyd pyllau glo yn yr ardal.
Daeth yn enwog am ei gwaith dur, a agorwyd gan Gwmni John Summers a'i Feibion, o Staybridge. Yna cafodd ei redeg gan lywodraeth Prydain dan British Steel. Erbyn hyn mae'n rhan o Grŵp Corus.
Agorwyd Pont Penarlâg yn y dref yn 1889.
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |