Helygain
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Helygain (Saesneg: Halkyn). Fe'i lleolir tair milltir i'r de-orllewin o dref Y Fflint, rhwng Pentre Helygain i'r gorllewin a Llaneurgain i'r dwyrain, ar lôn yr A55. Ceir Swyddfa Post, eglwys, tafarn a llyfrgell yno. Saif ar lethrau gogleddol Mynydd Helygain, sydd gerllaw.
Mae Pentre Helygain yn un o "blwyfi hynafol" Sir y Fflint. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys trefi canoloesol Hendrefigillt, Llugan y Llan a Llugan y Wern. Cyfeirir at y pentref yn Llyfr Domesday dan yr enw Alchene.
Ger y pentref ceir Castell Helygain, plasdy o'r 19eg ganrif a godwyd gan Dug Westminster, sy'n landlord mawr yn yr ardal. Codwyd eglwys y pentref gan y teulu hefyd.
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |