Chwitffordd
Oddi ar Wicipedia
- Am enghreiftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar yr enw, gweler Whitford.
Mae Chwitffordd (Saesneg: Whitford) yn bentref bychan a phlwyf yn Sir Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n gorwedd tua 4 milltir i'r gorllewin o Dreffynnon a 2 filltir i'r de o Fostyn.
Daw'r enw Cymraeg o'r enw Saesneg Whitford (naill ai "Rhyd Lydan" neu "Rhyd Wen"). Cofnodir y ffurf Widford yn Llyfr Domesday (1086) ac ymddengys fod y pentref wedi ei sefydlu gan yr Eingl-Sacsoniaid pan fu'r rhan yma o Gymru ym meddiant teyrnas Mercia. Ond adenillwyd y tir gan y Cymry a chafwyd y Cymreigiad Chwitffordd. Cofnodir yr enghraifft gynharaf o'r ffurf Gymraeg mewn dogfen sy'n dyddio i 1284.[1]
Ganwyd yr hynafiaethydd a naturiaethwr enwog Thomas Pennant ym mhlasdy Downing, ger y pentref, yn 1726. Ysgrifennodd Pennant gyfrol ar hanes a hynafiaethau Chwitffordd a'r cylch.
Pennant oedd un o'r awduron cyntaf i roi disgrifiad llawn o garreg hynafol Maen Achwyfan a'i groes Geltaidd gynnar, sy'n gorwedd tua milltir i'r gorllewin o Chwitffordd, ar y ffordd i Drelogan.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen (1992).
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |