Yr Wyddgrug
Oddi ar Wicipedia
Yr Wyddgrug Sir y Fflint |
|
Mae'r Wyddgrug yn dref yn Sir y Fflint. Mae'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r dref mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Ystyr yr enw lle yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (cyfystyr yw'r enw Saesneg Mold, o'r gair Moalde sy'n Seisnigiaid o'r Lladin Mons altus).
[golygu] Hanes
Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maesgarmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.
Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach.
[golygu] Enwogion
- Mae bedd yr arlunydd Richard Wilson ym mynwent yr eglwys.
- Ganwyd Daniel Owen, y nofelydd, yn y Wyddgrug yn 1836; cafodd ei gladdu ym mynwent y dref yn 1895.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddrgug 1923
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |