Penarlâg
Oddi ar Wicipedia
Penarlâg Sir y Fflint |
|
Mae Penarlâg (Saesneg: Hawarden) yn dref yn nwyrain Sir y Fflint, ar gyffordd yr A55 a'r A550 tua 6 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer dros y ffin. Mae Llyfrgell Deiniol Sant, a sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yno. Bu'r Rhyddfrydwr enwog fyw yn y pentref am dros 60 mlwydd. Deiniol yw nawddsant y plwyf. Ceir maes awyr bychan ger y pentref.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Eglwys Ddeiniol Sant
Mae'r eglwys yn dyddio o'r 13eg ganrif os nad cynt ac yn gysegredig i Sant Deiniol, esgob cyntaf Bangor. Yn anffodus cafodd yr hen eglwys ei llosgi i gyd bron yn 1857. Codwyd yr eglwys newydd gan y pensaer Scott ac mae'n cynnwys nifer o ffenestri lliw godidog gan yr arlunydd Cyn-Raffaelaidd Edward Burne-Jones.
[golygu] Castell Penarlâg
Cafodd y castell gwreiddiol ei godi gan arglwyddi Normanaidd Caer. Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, gweithref a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Bellach mae'n blasdy mawr ar ôl cael ei adnewyddu a'i helaethu sawl gwaith yn y gorffennol.
[golygu] Enwogion
- William Ewart Gladstone
- Gary Speed - treuliodd cyn-gapten tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ei ddyddiau ysgol yn y dref
[golygu] Atyniadau eraill
- Castell Ewlo - castell Cymreig ger Ewlo
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |