William Ewart Gladstone
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Rhyddfrydol a Phrif Weinidog Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon bedwar gwaith (1868-1874, 1880-1885, 1886, a 1892-1894) oedd William Ewart Gladstone (29 Rhagfyr, 1809 - 19 Mai, 1898).
William Gladstone oedd pedwerydd mab Syr John Gladstone, masnachwr o Lerpwl, a siaradodd ef gyda acen Lerpwl trwy gydol eu oes. Aeth William i Goleg Eton ac wedyn i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen i astudio y Clasuron a Mathemateg. Roedd e'n mynd i fod yn offeiriad, ond yng Nghymdeithas Trafod Undeb Rhydychen (Oxford Union debating society) gwnaeth ei enw fel areithiwr.
Cafodd Gladstone ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 1832, fel Aelod Seneddol Ceidwadol Newark, Swydd Nottingham. Roedd yn erbyn y ddeddf i ddileu caethwasanaeth yn 1833, a'r deddfau Ffatrioedd i wellhau bywyd y gweithwyr. Yn 1839 fe briododd Catherine Glynne, aelod o'r teulu Glynne o Gastell Penarlâg yn Sir y Fflint.
Gladstone oedd sefydlydd Llyfrgell Deiniol Sant, ym Mhenarlâg.
[golygu] Llyfryddiaeth
Oherwydd ei gysylltiadau â Chymru ar adeg pan fu Rhyddfrydiaeth yn cael cefnogaeth y mwyafrif o'r Cymry, ceir sawl llyfr am Gladstone yn y Gymraeg. Er enghraifft:
- Griffith Ellis, William Ewart Gladstone: Ei fywyd a'i waith (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1898). Cofiant swmpus darlunedig.